Sgwrs:Cyprus

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Sillafiad[golygu cod]

Cyprus yw'r sillafiad Cymraeg cywir am yr ynys hon —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Dyfrig (sgwrscyfraniadau) 17:14, 23 Mai 2004

Pa Gyprus?[golygu cod]

Ydi hon i fod yn erthygl am Ynys Cyprus, neu yn erthygl am wladwriaeth Roegaidd de Cyprus? Mae'r blwch gwybodaeth a'r erthygl yn croes-ddweud ei gilydd. Mae lle i dair erthygl - am yr ynys, am wladwriaeth Roegaidd y de, ac am wladwriaeth Dwrcïaidd y gogledd. Neu gellid rhoi'r cwbl mewn un erthygl. Siswrn 22:13, 26 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]

Dwi newydd fod yn edrych ar yr erthygl Saesneg. Ceir yr un sefyllfa fan 'na hefyd ond bod dolen i Weriniaeth Dwrcaidd Gogledd Cyprus. Mae'n sefyllfa dyrys. Dim ond llond llaw o wledydd sy'n cydnabod y weriniaeth dan reolaeth Twrci ac yn swyddogol llywodraeth y weriniaeth Roegaidd sy'n cynrychioli'r ynys gyfan. 'Tysen poeth' gwleidyddol 'di hyn, â dweud y lleiaf! Mae'n debyg fod tair erthygl yn fodd i ddatrys y broblem, gyda'r erthygl am yr ynys yn canolbwyntio ar hanes a daearyddiaeth hyd y 1970au, mae'n debyg. Croeso iti wneud hynny os nad oes wrthwynebiad gan rywun arall. Byddai'n syniad da i edrych ar rai o'r wicipediau eraill hefyd: ydyn nhw i gyd yn dilyn y drefn Saesneg (ac eithrio'r un Twrceg efallai)? Anatiomaros 22:52, 27 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]
Mae'r erthygl Saesneg yn adlewyrchu agwedd llywodraeth Prydain (ac America). Ond rydym ni ar y Wici Cymraeg yn rhydd i fod yn fwy annibynnol. Ceisio adlewrychu'r ffeithiau ydyw'r ffordd orau i wyddoniadurwyr a ddywedwn i e.e. mae gwladwriaeth Gogledd Cyprus yn bodoli de facto, a gellir adlewyrchu'r ffaith nad yw llawer o lywodraethau yn ei chydnabod mewn ffordd fwy niwtral a ffeithiol drwy ddweud hynny mewn geiriau yn lle anwybyddu ei bodolaeth. Siswrn 17:32, 22 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]
Yn sicr dylem ni gael erthygl am y Gogledd. Mae'n bod ac mae gennym ni ddyletswydd i gofnodi hynny. Ond methaf gydymdeimlo llawer â'r weriniaeth ei hun. I'r rhan fwyaf o Roegwyr mae'n enghraifft o imperialaeth Twrci ac yn wladwriaeth artiffisial a greuwyd gan Dwrci trwy drais ac sy'n atebol i Dwrci hefyd. Ond ar y cyfan mae fy meddwl yn agored ar y pwnc. Bod yn niwtral a ffeithiol di'r peth gorau. Anatiomaros 21:43, 22 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]
Dwi'n tueddu i gytuno â'r drefn ar y Wikipedia Saesneg: i gael erthygl ar y weriniaeth Dwrcaidd, ond i gadw'r dudalen Cyprus am weriniaeth y de. Gan fod y wladwriaeth hon wedi llywodraethu ers annibyniaeth yr ynys oddi ar Brydain, a gan fod y weriniaeth Dwrcaidd yn bodoli o ganlyniad i oresgyniad ac heb ei chydnabod yn rhyngwladol, dwi'n credu bod y weriniaeth Roegaidd yn haeddu bod yn gyfystyr â'r diriogaeth ddaearyddol fel y mwyafrif o wledydd eraill ar Wicipedia. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 22:21, 22 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]