Sgwrs:Cylchgrawn

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Y Cylch-grawn Cymmraeg[golygu cod]

Ydy "Cymmraeg" yn typo neu hen sillafiad? Alan012 05:24, 18 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Mae'n edrych yn od, ond dyna oedd y teitl. Anatiomaros 18:05, 18 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Mor od fel y gwnes i'r camgymeriad o roi "Cymmraeg" am "Cynmraeg" (='Cymraeg')! Anatiomaros 19:32, 18 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Y Cymro[golygu cod]

Nodir y gwerthwyr 2500 (lleiafswm) o'r Cymro bob wythnos. Nid yw'r ffigwr 13,000 am y flqwyddyn yn gwneud synwyr felly.. Tybed a'i 130,000 a ddylai fod?

Ia, da iawn. Fy mai i oedd hyn! Mae 130,000 wedi'i rannu efo 52 (nifer yr wythnosau) yn rhoi 2,500 copi yr wythnos. Dw i wedi'i newid. Diolch Dyfrig! Llywelyn2000 (sgwrs) 23:26, 9 Rhagfyr 2012 (UTC)[ateb]

Diweddaru[golygu cod]

Cyhoeddi Grantiau i Gylchgronau Cymraeg ar gyfer 2016–2019 - 14 Medi 2015. Angen tabl mwy diweddar. Gellir cynnwys:

Meddai’r Athro Gerwyn Wiliams, Cadeirydd y Panel. "Mewn cyfnod anodd o ran cyllido a gwerthiant cylchgronau’n gyffredinol mae’n braf gweld y diwydiant yn ymateb gyda syniadau newydd sbon a pharodrwydd i ymateb i her y byd digidol."

Llwyddwyd i ddenu (a chyllido) dau syniad newydd sbon. Un o’r gronfa ddatblygu a neilltuwyd ar gyfer syniadau newydd, sef Melin, menter ddigidol i grynhoi a dosbarthu newyddion cyfoes, a Mellten, comic i blant a phobl ifanc a fydd yn cael ei greu gan y cartwnydd adnabyddus Huw Aaron a’i gynhyrchu gan Y Lolfa.

"Mae cael portffolio eang o gylchgronau yn sylfaenol i gynnal diwylliant hyfyw ac yn gyfraniad uniongyrchol i ledaenu defnydd o’r iaith. Mae’r cylchgronau hefyd yn cynnig cyfle i ymdrin â phynciau amrywiol drwy’r Gymraeg ac i hybu trafodaeth am faterion y dydd," meddai Elwyn Jones, Prif Weithredwr, Cyngor Llyfrau Cymru.

Bydd cyfnod y trwyddedau newydd yn dechrau ar 1 Ebrill 2016.

  • Barddas £24,000
  • Barn £80,000
  • Cristion £4,800
  • Golwg £73,000
  • Lingo £18,000
  • Y Cymro £18,000
  • Y Wawr £10,000
  • CIP £27,500
  • Mellten £14,000
  • Fferm a Thyddyn £1,500
  • Llafar Gwlad £7,000
  • Melin £5,000
  • WCW £30,000
  • Y Selar £10,000
  • Y Traethodydd £6,000
Cyfanswm: £391,446

Dw i hefyd wedi gofyn i GLlC am y niferoedd gwerthiant 2014/5. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:31, 29 Chwefror 2016 (UTC)[ateb]