Sgwrs:Cosofo

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Enw'r erthygl[golygu cod]

Does dim enw Cymraeg ar gyfer y lle, felly, yn ôl rheolau'r Atlas Cymraeg Newydd, dylid defnyddio'r enw brodorol. Mae hyn yn codi cwestiwn hefyd. Albaneg, Serbeg a Saesneg (ac i ryw raddau Twrceg a Bosniak) yw'r ieithoedd swyddogol, a'r mwyafrif llethol yn siarad Albaneg fel mamiaith. Felly, a ddylid defnyddio Kosova (Albaneg) neu Kosovo (Serbeg, Saesneg)? Ar hyn o bryd, dwi'n meddwl y byddai'n well defnyddio'r Saesneg (h.y. Kosovo), ond gallai hynny newid os yw'r sefyllfa wleidyddol yno'n newid hefyd. Felly, dwi'n symud enw'r erthygl i Kosovo. Daffy 22:43, 2 Medi 2006 (UTC)[ateb]

Rydw i wedi symud yr erthygl i Cosofo yn unol â'r polisi ar enwau gwledydd. Mae'r ffurf "Cosofo" yn ymddangos yng Ngeiriadur yr Academi, yn atodiad argraffiad 2006 (nid yw cofnodion yr atodiad yn ymddangos yn y fersiwn ar-lein, yn anffodus). —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 16:14, 20 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]