Sgwrs:Charles Perrault

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Enwau cymeriadau chwedlau plant yn Gymraeg[golygu cod]

Oes gan rywun gopi o lyfr o chwedlau i blant sy'n cynnig Cymreigiadau o'r enwau cyfarwydd hyn: "Sleeping Beauty", "Little Red Riding Hood", "Blue Beard", "Mother Goose", "Puss in Boots", "Tom Thumb"? Mae'r enwau Ffrangeg a Saesneg yn ddigon cyfawrydd i mi ond wnes i ddim sylweddoli nes i mi sgwennu hyn mor anodd ydy eu trosi i'r Gymraeg (dwi wedi rhoi cynnig ar ambell un yn yr erthygl, am rwan, ond dwi'n meddwl am sgwennu cyfres o erthyglau amdanyn nhw, rhywbryd...)! Diolch o flaen llaw, Anatiomaros 20:32, 10 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Dwi wedi cael un, sef Hugan Goch Fach am "Little Red Riding Hood" (a minnau wedi cynnig "Capan Coch" ond i gael fod hynny'n enw am yr amanita muscara gwenwynig!). Anatiomaros 21:57, 10 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Un arall: Y Dywysoges Hir Ei Chwsg am "Sleeping Beauty" (gweler Sleeping Beauty (ffilm 1959), ond dydy'r ddolen ryngwici ddim yn gweithio). Anatiomaros 22:27, 10 Hydref 2008 (UTC)[ateb]