Sgwrs:Cerddoriaeth hen ffasiwn

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Dw i ddim yn meddwl bod Cerddoriaeth hen ffasiwn yn adlewyrchu ystyr old time music o gwbwl. Cyfan mae Geiriadur yr Academi yn ddweud yw 'old fashion' nid yw yn son am gerddoriaeth o gwbwl. Byddai 'cerddoriaeth amser a fu/ oesoedd a fu yn well er nad wyf yn rhy hapus gyda nhw chwaith

Gall fod yna ddadl i beidio cyfieithu o gwbwl. Rydym yn derbyn gyda newid yn y sillafaid jazz, reggae ac ati. Beth mae pobl yn feddwl? Dyfrig (sgwrs) 23:25, 6 Awst 2012 (UTC)[ateb]

Mae Prifysgol Bangor 'di defnyddio "miwsig hen-ffasiwn" yma (chwiliwch am hen-ffasiwn: "cafodd ei dynnu at fiwsig hen-ffasiwn mynyddoedd yr Appallachians"). Ond dyna'r unig enghraifft o'r term allaf ddarganfod ar-lein. —Adam (sgwrscyfraniadau) 23:59, 6 Awst 2012 (UTC)[ateb]
Dw i'n dehonglu hyn fel disgrifio'r gerddoriaeth fel un hen ffasiwn ac ddim yn cyfeirio yn benodol at 'Old-time music' fel y tern am 'old time music ac felly ni ellir tybio bod hyn yn enw ar 'old-time music' .Dyfrig (sgwrs) 05:03, 7 Awst 2012 (UTC)[ateb]
Ia, mae na wahaniaeth rhwng yr enw, neu'r term cydnabyddiedig a disgrifiad cyffredinol yn does? Efallai mai'r peth gorau ydy dal i chwilio a oes term wedi'i fathu a'i dderbyn, ac os nad oes yna amdani! Bydd yn rhaid i ni fathu term. O leia mae gennym ni un enghraifft gan Brifysgol Bangor. Dyna ddechrau arni! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:31, 7 Awst 2012 (UTC)[ateb]
Mae enghraifft Prifysgol Bangor yn sicr yn cyfeirio at old-time music. Os gliciwch ar y ddolen "English" ar ben y dudalen, old-time music yw'r term cyfatebol a ddefnyddir, ac mae'r cyd-destun hefyd yn cyfeirio at gerddoriaeth draddodiadol Mynyddoedd Appalachia. —Adam (sgwrscyfraniadau) 15:10, 7 Awst 2012 (UTC)[ateb]