Sgwrs:Castell Ewlo

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Pwy wnaeth godi Castell Ewlo?[golygu cod]

Yn ôl dogfen 1311, cafodd y castell ei godi 'in a corner of the wood' gan Llywelyn ein Llyw Olaf yn 1257. Ewch i www.castlewales.com/ewloe.html am fwy: sylwch, built, nid repaired neu added to. Mae'r wybodaeth yma yn dod o Renn ac Avent (1985). Mae Avery allan o ddyddiad.

Digon teg, efallai. Ond dylid nodi'r damcaniaethau eraill hefyd, fel a geir yma ac ar safle castlewales ei hun. Sylwer ar eiriad castlewales: "In the absence of any other solid evidence, we should perhaps accept the contemporary documentary account, and see the castle as a construction of Llywelyn ap Gruffydd in the years following 1257." "Perhaps". Mae'r ddadl o blaid y dehongliad hynny yn un gryf, ond dydi hi ddim yn setlo'r broblem yn derfynnol. Anatiomaros 16:42, 4 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
ON Dwi ddim yn siwr os ydy dogfen a luniwyd yn 1311 yn "contemporary account" chwaith, yn sicr dim yn nhermau's Oesoedd Canol lle roedd 50+ mlynedd yn dalp sylweddol o amser. Anatiomaros 16:47, 4 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Wel, rwy'n gweld hynny hefyd.

Rwy'n cofio gweld brawddeg mewn rhyw bamffled a gafodd ei gyhoeddi gan y bobl dreftadaeth ym Mharc Wepre yn awgrymu rhybweth fel 'it may be that this was built as a skirmishing castle [!!!] by Llywelyn ab Iorwerth around 1210'. 'Sgen i ddim syniad beth yw 'skirmishing castle'! - ond eto, roeddent yn dilyn Avery am y ffeithiau. Yn bersonol, buaswn yn licio gweld tîm o archaeolegwyr yn dychwelyd i'r castell. Dichon mai Ewlo yn gastell o'r 1250au, ond, fel yr ydych chi'n dweud, dydyn ni ddim yn hollol siwr. Mae Carndochan yn achos tebyg iawn. Rwante, rydw i i ffwrdd i fwrw golwg dros y tudalen hwnnw!... Ynyrhesolaf 16:01, 5 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]