Sgwrs:Carreg Cadfan

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Untitled[golygu cod]

Troellwr: Dw i wedi dadwneud dy newidiadau gan nad oedd gen ti gyfeiriadau i'w cefnogi nhw. Hefyd, Eglwys Sant Cadfan sy'n cael ei ddweud yn lleol (ac yn y Gwyddoniadur; tud 932), NID Cadfan Sant! Mae'r Gwyddoniadur hefyd yn rhoi 7 - 9ed ganrif fel dyddiad. O ble gest ti dy ddyddiad di? Diolch am dy gyfraniad, ond mae'r gyfeiriadaeth yn ddiawch o bwysig! Benywaidd ydy "ochr" hefyd, er bod "maen" yn wrywaidd; "ar bedair ochr" sy'n gywir. Llywelyn2000 05:26, 28 Chwefror 2012 (UTC)[ateb]

Llywelyn2000: Diolch am y sylwadau. Hollol iawn ynghylch pwysigrwydd ffynonellau. Rwyf wedi ychwanegu deunydd o'r ffynhonnell ddiweddaraf y gwn amdani. O ran enw'r eglwys, mae'r ffurfiau 'Sant Cadfan' a 'Cadfan Sant' ill dwy yn cael eu harfer gan wahanol bobl. Ac o ran defnydd lleol mae'n werth nodi mai'r enw ar yr hen ficerdy yn Nhywyn yw 'Tŷ Cadfan Sant'. Mae Geiriadur yr Academi yn nodi mai'r arfer gyda seintiau brodorol yw gosod 'sant' ar ôl yr enw, felly Sant Ioan ond Dewi Sant (ac felly Cadfan Sant). Felly mae'n debyg iawn mai dylanwad Saesneg sydd i gyfri am 'Sant Cadfan'. Ond ta waeth am hynny. Yr hyn sy'n fwyaf naturiol yn y Gymraeg, dybiwn i, yw hepgor y 'sant' yn llwyr. Dyna a wneir yn 'Carreg Cadfan', wrth gwrs, ac yn 'Morfa Cadfan' am y morfa i'r gogledd o Dywyn. 'Eglwys Padarn' sydd ar Wicipedia am eglwys Llanbadarn Fawr. Gan hynny, gallwn dybio mai 'Eglwys Cadfan' fyddai orau. Troellwr (sgwrs) 20:38, 18 Medi 2012 (UTC)[ateb]
Mae na reolau yn Wici sy'n gosod y ddeddf i lawr! Nid yw barn bersonol, mwy nag ymchwil bersonol ddim yn dderbyniol. Er mod i'n derbyn fod "Eglwys Cadfan" yn hynod o hyfryd, nid dyna mae'r eglwys yng Ngymru, yr eglwys yn lleol, y bobl leol a'r Gwyddoniadur yn ei ddefnyddio. Nid torri tir newydd ydy bwriad Wicipedia eithr adlewyrchu tystiolaeth safonol orau, gan bobl a chyrff cydnabyddiedig. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:11, 19 Medi 2012 (UTC)[ateb]
Diolch Llywelyn2000. Oes, mae nifer o reolau gan Wicipedia. Fe nodais uchod rai rhesymau o blaid defnyddio'r ffurf 'Eglwys Cadfan'. Rwyf wedi ymhelaethau ar y pwynt ar yr adran 'Sgwrs' ar yr erthygl ar Eglwys Sant Cadfan, Tywyn ac felly nid ailadroddaf yma. O ran y sylw nad 'torri tir newydd ydy bwriad Wicipedia', go brin bod ffafrio ffurf a ddefnyddiwyd gan Owain Owain, William Davies (Llanegryn), T. I. Ellis, ac R. Geraint Gruffydd (a nodi dim ond rhai awduron gwybodus iawn am yr ardal) yn gwneud hynny. Mae'r sylw am ddefnydd yr eglwys o 'Eglwys Sant Cadfan' yn gwbl wir, ond mae hefyd yn wir mai 'Eglwys St. Padarn' a ddywed yr eglwys am Eglwys Padarn. Anodd gwirio'r sylw am 'y bobl leol', ac er bod y defnydd lleol yn bwysig iawn, mae angen ystyried yr arfer safonol yn ehangach hefyd. Rwy'n derbyn yn llwyr fod dadleuon cryf o blaid y ddwy ffurf. A phan ddaw'n fater o benderfynu beth yw'r 'dystiolaeth safonol orau', mae'n anorfod yn fater o farn i ryw raddau. Ond nid yw ffafrio 'Eglwys Cadfan' yn fater o 'farn bersonol' yn fwy nag yw ffafrio 'Eglwys Sant Cadfan'. Os oes anghydweld - ac mae hynny'n un o gryfderau Wicipedia - yna dylid trafod y dystiolaeth (sef diben yr adran 'Sgwrs'). Ni ddylid hawlio bod un farn yn seiliedig ar dystiolaeth ac un arall yn 'farn bersonol' heb brawf o hynny. Rwyf wedi gadael 'Eglwys Sant Cadfan' fel y mae, ac rwy'n ddigon hapus i wneud hynny, er y byddwn yn ffafrio'r ffurf arall. Efallai y daw eraill i fynegi barn - dyna yw hanfod y wefan hon. Ond diolch eto am y drafodaeth! 81.106.59.160 19:39, 19 Medi 2012 (UTC)[ateb]
Diolch am dy gyfraniad eto. Dw i wedi cynnwys y dair ffynhonnell dyddiadau a chaif y darllenydd ddewis! Mae dy ddull o esbonio'r ystyr yn hawdd ei ddilyn a dw i wedi ei gadw, ar ol tacluso ychydig ar y fformatio. Tybed a ydy Cadw neu'r Comisiwn Brenhinol wedi ymchwilio i'r sgrifen; hyd yma fedra i ddim dod o hyd i dim gan y naill neu'r llall: mae hyn yn nodweddiadol ohonyn nhw! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:48, 20 Medi 2012 (UTC)[ateb]