Sgwrs:Camp (arddull)

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Pa gamp?[golygu cod]

"Defnyddir y term Camp pan yn cyfeirio at rywbeth sy'n apelio yn sgîl ei ddiffyg chwaeth a'i werth eironig." Eitha gwir fel diffiniad o'r arddull a ddisgrifir gan y gair Saesneg (dwi'n derbyn ei fod yn air Cymraeg erbyn hyn hefyd, mae'n debyg), ond prif ystyr y gair Cymraeg 'camp' yw "gorchest neu ragoriaeth" (e.e. "dangos ei gampau") a hefyd "gêm neu chwarae" a'r hyn a enillir felly (e.e. "ennill y gamp"). Roedd y Pedair Camp ar Hugain yn gampau arbennig yn yr Oesoedd Canol, er enghraifft (angen erthygl fan'na!). Mae rhai yn defnyddio'r gair benthyg camp, sydd yn y geiriadur, am wersyll o unrhyw fath hefyd. Fyddai hyn yn well dan y teitl Camp (arddull), gyda thudalen gwahaniaethu - Camp? Anatiomaros 18:25, 1 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Cytuno - mae gan y gair ystryon ehangach yn Gymraeg. Nelwn i hyn ond dwi ddim yn gwybod sut i symud tudalennau a newid teitlau. Glanhawr 18:29, 1 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Diolch am yr ymateb, Glanhawr. Mae symud tudalen a newid ei henw yn gamp eitha hawdd: tapiwch ar y tag "Symud", sydd ar ben y ddalen, a rhoi'r enw newydd i mewn yn y blwch fydd yn ymddangos. Ydy 'Camp (arddull)' yn dderbyniol fel yr enw newydd? Methu taro ar gynnig gwell. Anatiomaros 18:35, 1 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Ah diolch am y cymorth ac mae "Camp (arddull)" yn swnio'n addas i fi. Glanhawr 18:39, 1 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Tisio symud o felly, i ti gael profiad? Anatiomaros 18:43, 1 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Ok! Here goes.... Glanhawr 18:46, 1 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]