Sgwrs:Bugail

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Ambell bwynt[golygu cod]

Roedd gwir angen yr erthygl yma, ond mae'n anwybyddu bugeilio fel ffordd o fyw nomadaidd (dwi wedi ychwanegu cyfeiriad cwta) mewn cyferbyniaeth a ffermio'r tir (hen hen ymraniad a welir yn hanes Cain ac Abel yn y Beibl, er enghraifft). Rhyfedd nad oedd sôn am fugeilio geifr chwaeth.

Hefyd, dwi ddim yn siwr am hyn, ar ddiwedd yr erthygl: "Cyn yr oes bresennol, dim ond mewn ardaloedd megis Israel, Gwlad Groeg, y Pyrenees, Mynyddoedd Carpathia, Cymru a'r Alban yr oedd cadw defaid yn beth cyffredin." (wnes i ychwanegu 'Cymru'). Efallai mai dyna sy ganddyn nhw ar "en", ond ai gwir hynny? Roedd yn gyffredin iawn yn Asia o Asia Leiaf i Fongolia, ac mae'n ffordd o fyw mewn sawl ardal arall ers canrifoedd.

Gellid sôn cryn dipyn am fugeilio yng Nghymru hefyd - mae'n dipyn o ystrydeb efallai, ond mae'n rhan o fywyd cefn gwlad Cymru ers canrifoedd (cofier am y Sistersiaid, er enghraifft). Ond mae hyn yn fan cychwyn da. Diolch i Thaf am osod y seilau. Anatiomaros 15:58, 17 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]