Sgwrs:Brynaich

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Camddehongli?[golygu cod]

Mae 'na sawl peth wedi'i ychwanegu sy'n gamarweiniol braidd neu'n ddadleuol. Camdealltwriaeth yw hyn, er enghraifft: "Gwyddwn hyn gan y cyfeirir yn 'Marwnad Cunedda' at 'fyddin Gododdin a Brynaich', dau lwyth wedi'u huno i ymladd ym Mrwydr Catraeth." (gwreiddiol, yn fwy camarweiniol byth am ei fod yn awgrymu cysylltiad rhwng Cunedda a Brwydr Catraeth, sy'n amhosibl: "Gwyddwn hyn gan y cofnodir yn 'Marwnad Cunedda' am fodolaeth y Brenin Cunedda ac am 'fyddin Gododdin a Brynaich', dau lwyth wedi'u huno i ymladd ym Mrwydr Catraeth.") Wel, mae hynny'n peri tipyn o syndod achos yn ôl Y Gododdin a ffynonellau eraill "gwŷr Deifr a Brynaich" oedd y gelyn yn y frwydr honno (gw. argraffiad Ifor Williams neu unrhyw lyfr safonol arall am y cyfnod). Anatiomaros 15:35, 26 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]