Sgwrs:Brychdyn, Wrecsam

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Mae'n ddrwg gen i os wnes i ddileu'r hen erthygl heb sail, ond roeddwn i'n meddwl mai un Brychdyn sydd 'na, sef Brychdyn (Broughton) yn Sir y Fflint. Adnabyddus iawn, yn bennaf fel cartref ffatri Airbus. Dwi'n gweld mai Broughton yw'r ffurf Saesneg ar y Brychdyn yma hefyd. Does mond un 'Broughton' yng ngogledd-dwyrain Cymru yn fy atlas ffordd a does dim sôn am "Broughton, Wrexham" ar y wicipedia Saesneg chwaith (ond mae 'na Broughton, Flintshire). Rhaid i mi ofyn be sy'n digwydd yma felly: ydy hi'n bosibl cael dau le o'r enw Brychdyn mor agos i'w gilydd ac un o nhw heb fod ar y map? Anatiomaros 17:33, 16 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Yr unig gyfeiriad at 'Brychdyn' ar wefan Cyngor Sir Wrecsam yw un at Frychdyn Sir y Fflint (gweler yma). Mae hynny'n rhyfedd, a deud y lleia. Anatiomaros 17:46, 16 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]
Mae'n ymddangos bod yna ddau; mae Gwyddoniadur Cymru, sy'n rhestru'r cymunedau, yn rhoi Brychdyn (Broughton), Wrecsam a Brychdyn a Bretton, Sir y Fflint. Doeddwn i erioed wedi clywed am yr un yn Wrecsam chwaith - mae rhwng Gwersyllt a Brymbo yn ol y Gwyddoniadur. . Nid yw'n glir o'r Gwyddoniadur a yw cymuned Brychdyn, Wrecsam hefyd yn cynnwyd pentref o'r enw Brychdyn ai peidio. Rhion 18:17, 16 Rhagfyr 2008 (UTC) Ychwanegiad: mae'r ddau ar Google maps, yr yn yn Wrecsam fymryn i'r gorllewin o frymbo.[ateb]
Diolch am y wybodaeth. Dyrys iawn. Dwi wedi cael hyd i 'New Broughton' ger Wrecsam (mae 'na o leia un arall, yn Salford, Manceinion) ac mae 'na le o'r enw 'Pentref Brychdyn' hefyd, yn yr un ardal. Falla cawn ni ragor o wybodaeth a chyfeiriad o ryw fath gan y cyfranwr IP? Anatiomaros 18:29, 16 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]