Sgwrs:British Columbia

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Columbia Brydeinig?[golygu cod]

Mae tua 30 o dudalennau we yn ymddangos wrth chwilio Google am "Columbia Brydeinig" – a ddylen ni cymryd hwn fel enw Cymraeg derbyniol y dalaith? --Adam 14:30, 21 Mai 2006 (UTC)[ateb]


Er fy mod o blaid defnyddio'r cyfieithiad Gymraeg lle bynnag y bo'n bosib, nid wyf yn siwr os yw'n syniad da cyfieithu enwau dinasoedd a gwledydd i'r Gymraeg pan nad oes defnydd eang o'r cyfieithiad yn bod. Teimlo 'rwyf ein bod yn ceisio bathu enwau newydd wrth wneud hyn, dim ond am fod cyfieithiad amlwg ar gael (e.e. British i Brydeinig yn yr achos hwn).
Rwy'n derbyn bod Google yn dangos tua 30 canlyniad wrth chwilio am "Columbia Brydeinig" (ond wrth gyfri fesul un, dim ond 11 safle gwahanol sy'n defnyddio'r ffurf hon).
Gallaf ddarganfod llawer mwy o dudalennau Cymraeg trwy Google sy'n defnyddio "British Columbia", e.e. wrth chwilio am ""British Columbia" +nghanada", ceir tua 97 o ganlyniadau. (Rwy'n defnyddio "Canada" wedi'i dreiglio er mwyn cyfyngu'r canlyniadau i dudalennau Cymraeg).
Beth yw barn pawb arall? —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan 82.13.35.141 (sgwrscyfraniadau) 23:29, 21 Mai 2006 (UTC)[ateb]