Sgwrs:Bosnia a Hertsegofina

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Pam ydym ni bron yr unig rai allan o holl wicipedias y byd i ddefnyddio'r ffurf BOSNA yn lle BOSNIA (neu ffurfiau tebyg sy'n cadw'r sain i)? Fedra'i ddim dychmygu neb yng Nghymru yn sôn am 'Bosna' nac yn sgwennu'r enw fel 'na chwaith. Dwi'n dechrau difaru creu tudalen ail-gyfeirio i hyn o 'Bosnia a Hercegovina'. A oes wrthwynebiad gan rywun os newidiaf hyn i'r sillafiad cyfarwydd BOSNIA? Anatiomaros 18:13, 18 Mehefin 2007 (UTC)[ateb]

Gan nad oedd neb wedi gwrthwynebu, rwyf wedi ei symud. Rhion 16:53, 3 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Rargian, roeddwn i wedi anghogio'n lân am hyn, Rhion. Diolch am ei symud a chreu'r categorïau newydd. A ffarwel i "Fosna"! Anatiomaros 17:09, 3 Awst 2009 (UTC)[ateb]