Sgwrs:Batri (trydan)

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Prif ystyr amlwg[golygu cod]

Os angen gwahaniaethu yma? Dyma'r ystyr arferol a'r unig un arall sy'n dod i'r meddwl yw 'magnelfa' (battery yn yr ystyr filwrol). (Hefyd, does dim tudalen wahaniaethu gennym ni beth bynnag). Anatiomaros 16:59, 26 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Batri ieir? Wn i ddim oes na air Cymraeg? Porius1 17:32, 26 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Mae gen ti bwynt - anghofiais am hynny! Dwn i ddim os oes 'na derm Cymraeg. Ac eto baswn i'n dadlau mai 'batri' (trydan) yw'r ystyr amlycaf o lawer. Gellid symud hyn i Batri (sy'n ailgyfeirio i'r erthygl hon ar hyn o bryd - newydd sylwi!) a chael Batri (gwahaniaethu) gyda dolen o ben y dudalen hon? Dim o'r pwys mwyaf efallai, ond mae angen gwneud rhywbeth. Anatiomaros 17:27, 27 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]