Sgwrs:Astudiaethau cudd-wybodaeth

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Oes angen yr erthygl ar-wahân?[golygu cod]

Oes angen yr erthygl ar-wahân i'r brif erthygl (cudd-wybodaeth)? Os dych chi'n mynd i'r erthygl en (en:Intelligence (information gathering)) a chwilio am Intellegeince studies, fe gewch eich ailgyfeirio at y prif erthygl, sef yr uchod. Beth am drosglwyddo'r wybodaeth i'n prif erthygl ni, a rhoi adran iddi? -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 15:15, 29 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Fe wnes i greu'r ddwy erthygl gan fod gen i ddiddordeb yn y pwnc (yn wir dwi'n ei astudio ym mhrifysgol!). Nid yw'r erthygl Saesneg ar gudd-wybodaeth yn gwneud llawer o ymdrech i wahaniaethu rhwng cudd-wybodaeth fel y ceir ei hymarfer a chudd-wybodaeth fel y ceir ei hastudio (er bod intelligence studies yn ailgyfeirio ati, nid yw'r term yn ymddangos unrhywle o fewn yr erthygl). Dwi'n sylweddoli bod y ddwy erthygl Gymraeg rhwyfaint yn brin ar hyn o bryd, ond dwi'n bwriadu eu hehangu yn fuan (wedi bod yn eitha' brysur yn ddiweddar ond dwi'n anelu at gyfrannu'n fwy i'r wici dros yr haf). —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 23:54, 29 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Minnau hefyd - dwi newydd orffen fy ngradd mewn cyfrifiadureg fforensig yn y Brifysgol (wel, wedi dweud hynny, rhaid imi ailsefyll dau arholiad!!!!!). Beth wyt ti'n ei astudio 'te, ti ddim yn meindio fy ngofyn. Iawn, bydda i'n dy ad iddi te :) -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 01:18, 30 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Dwi'n astudio astudiaethau cudd-wybodaeth (ynghyd â gwleidyddiaeth ryngwladol)! —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 02:06, 30 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]