Sgwrs:Arian cyfred

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Dwi erioed wedi clywed am y term Arian 'Breiniol' o'r blaen. Roeddwn i'n meddwl mai Arian Cyfred oedd currency, ac o wneud ymchwiliad Google, mai'n ymddanhgos mai Arain Cyfred mae sawl adran o'r llywodraeth yn ddefnyddio, gan gynnwys Banc Lloegr! --Ben Bore 15:47, 24 Hydref 2007 (UTC)[ateb]

Dwi wedi ymateb ar eich tudalen Sgwrs. Mae 'arian breiniol' yn un o sawl term yn y Gymraeg. Os yw 'arian cyfred' yn cael ei ddefnyddio'n gyffredinol heddiw does gennyf ddim wrthwynebiad i'w ddefnyddio yma. (Roedd yr enw 'arian breiniol' yn bod fel dolen goch ar y gwybodlenni gwlad: "dilyn y ddolen" wnes i i greu'r eginyn erthygl hon.) Anatiomaros 16:52, 24 Hydref 2007 (UTC)[ateb]