Sgwrs:Arctic Monkeys

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Cafodd ail erthygl ei chreu hefyd am yr un pwnc. All rhywun cyfuno'r hysbysrwydd o'r dwy erthygl? Dyma'r testun.

Band annibynnol Seisnig o High Green, un o faestrefi Sheffield yw 'r Arctic Monkeys. Ffurfiwyd y band yn 2002, ac ar hyn o bryd aelodau'r band yw Alex Turner (prif leisydd a gitâr), Jamie Cook (gitâr), Matt Helders (drymiwr, lleisydd cefndirol) a Nick O'Malley (gitâr bâs, lleisydd cefndirol)a gymrodd le Andy Nicholson.
Cafodd y band eu blas cyntaf o lwyddiant gyda'u sengl cyntaf "I Bet You Look Good on the Dancefloor", a gyrhaeddodd rhif un yn y Siart Senglau Brydeinig. Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf "Whatever People Say I Am, That's What I'm Not" ym mis Ionawr 2006. Ar y pryd, dyma oedd y tro cyntaf i albwm cyntaf fand werthu mor gyflym gan fwy o gopïau na "Definitley Maybe" gan Oasis. Cafodd ganmoliaeth enfawr gan ennill Gwobr Mercury yn 2006 a Gwobr Brit am yr Albwm Gorau o Brydain yn 2007. Rhyddhawyd ail albwm y band "Favourite Worst Nightmare" ar y 23ain o Ebrill 2007 a gwerthodd 225,000 yn yr wythnos gyntaf a chafodd ei enwebu am Wobr Mercury 2007. Derbyniodd y band wobr am yr Albwm Gorau o Brydain a'r Grŵp Gorau o Brydain yng Ngwobrau'r Brits yn 2008.
Daeth yr Arctic Monkeys yn llwyddiannus i raddau oherwydd rhannu ffeiliau ar y wê. Cafodd y band eu cydnabod fel un o'r bandiau cyntaf i wneud enw i'w hunain trwy'r rhyngrwyd, gyda sylwebyddion yn awgrymu fod y band yn cynrychioli newidiad yn y modd y mae bandiau newydd yn cael eu hyrwyddo a'u marchnate. Arwyddodd y band gytundeb i gwmni recordio annibynnol Domino Records.

Alan012 15:07, 29 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]