Sgwrs:Annibynwyr

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Mae'r ddalen hon yn cael ei chyfeirio at Anabaptist yn Saesneg ac i ieithoedd eraill hyd y gallaf weld. Byddai yn fwy cywir ei chyfeirio at Congregational Church. gallwn i ei newid i'r Saesneg ond wn i ddim pa effaith fyddai hynny yn gael ar y cysylltiad mewn ieithoedd eraill. Ydy pobl yn cytuno. Mae'n debyg y dylid ail enwi'r ddalen yn Annibynwyr (Enwad) hefyd. Dyfrig 12:13, 24 Rhagfyr 2006 (UTC)[ateb]

Adfer newidiadau heddiw (14.11.08)[golygu cod]

Dw i wedi adfer y rhan fwyaf o beth gafodd ei ddileu gan newidiadau a wnaed i'r erthygl heddiw gan Defnyddiwr:Rhysllwyd. Roedd y testun a roddodd yn ei le yn anelwig braidd, ac yn cael gwared o wybodaeth, fel dyddiad penodol (wel, o pa ganrif o leiaf), nifer aelodau yng Nghymru ac esboniad o strywthyr Annibynwyr yng Nghymru. Croeso i Rhys neu eraill wrthdroi hwn wrth gwrs, ond cesiwch esbonio'r golygiad ar y dudalen sgwrs ogydd.--Ben Bore 16:20, 14 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Diolch i ti a Rhys am y gwaith ar hyn. Dwi wedi bod dros y testun gan wneud ambell fân ddiwygiad a rhoi dolenni wici i mewn. Mae'n darllen yn ardderchog, ond - ac mae'n "ond" pwysig - mae'n adrodd yr hanes o un safbwynt yn unig, sef safbwynt yr Annibynwyr. Roedd 'na ddigon o Gymry yn anghytuno â nhw ac yn eu gwrthwynebu, yn enwedig yn y cyfnod cynnar a'r 18fed ganrif, a hynny am sawl reswm, ond prin bod sôn am hynny. Yn ogystal, mae barn haneswyr modern yn amrywio'n fawr. Cyn belled â mae'r 17eg ganrif yn y cwestiwn, er enghraifft, y ddadl gyffredinol yw mai ychydig iawn o gefnogaeth a dylanwad a gafodd y Piwritaniaid yng Nghymru. Does dim sôn am agweddau negyddol ar eu dylanwad chwaith - roedden nhw a'r Ymneilltuwyr eraill yn gyfrifol am ladd nifer o draddodiadau'r wlad ("Hen Gymru Lawen") ac roeddent yn erbyn unrhyw lenyddiaeth seciwlar neu "fasweddol" (h.y. yn diddanu er mwyn diddanwch), a chymerodd amser maith i'n llenyddiaeth ddod dros hynny, er mawr golled i'r iaith Gymraeg, ac ati. Anatiomaros 19:30, 14 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Tydw i heb gyfrannu dim i'r erthygl oni bai am wrthdroi newidiadau uchod, felly alla i ddim cymeryd dim clod am yr erthygl. O'r ychydig dw i'n wybod am y pwnc, mae'n swnio'n ddiddorol dros ben, mond gwneud newidiadau o ran arddull wnes i. Cytuno hefyd bod yr erthygl yn bell ofod yn ddi-duedd. Dw i'n rhyw fath o ddarllen llyfr 'Hanes Cymru' John Daves ar hyn o bryd, felly pan ddof i'r rhan sy'n sôn am y 16G i'r 18G, efallai mentraf gyfrannu at yr erthygl yma. Efallai byddai'n well dechrau pennawd sgwrs gwahanol ar y dudalen yma am y diffygion rwyt yn eu crybwyll?--Ben Bore 09:24, 17 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]