Sgwrs:Amwythig

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Er mai Yr Amwythig fyddwn i'n ei ddweud ar lafar ac Yr Amwythig a ddefnyddir drwy gydol yr erthygl, mae David Thorne yn nodi na ddylid defnyddio'r fannod o flaen Amwythig (gweler Gramadeg Cymraeg, tud 112). Mae'n gwneud synnwyr - Swydd Amwythig yw Shropshire yn hytrach na Swydd yr Amwythig. Defnyddia Ifor Williams yn Amwythig hefyd yn Canu Llywarch Hen, tud. lxi, felly efallai y dylid cywiro'r erthygl, ond beth yw'r farn? Eisingrug 13:06, 30 Awst 2010 (UTC)[ateb]

Does gen i ddim barn bendant am hyn. Dwi'n cytuno mai 'Amwythig' yw'r ffurf safonol ond ar y llaw arall "Yr Amwythig" yw'r ffurf lafar, fel rwyt ti'n nodi. Trio cadw'r balans rhwng ffurfiau safonol, gramadegol gywir, a defnydd llafar ac arferol ydy'r gamp gydag enwau lleoedd Cymraeg. Mae awdurdod David Thorne ac Ifor Williams yn ddigon i fi, ond does gen i ddim teimladau cryf y naill ffordd na'r llall. Newid neu beidio, dylem ni nodi'r ddwy ffurf yn yr erthygl. Anatiomaros 23:03, 30 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Dwi'n tueddu i gredu mewn cadw cywirdeb gramadegol mewn iaith ffurfiol, ysgrifenedig, gan adael i'r llafar gyfeiliorni wedyn. O leiaf, trwy wneud hyn, mae'r sylfaen yn gadarn. Fe dria i gywiro'r erthygl o dan Amwythig, ond gan adael yr erthygl wreiddiol i'w hadfer os nad yw pawb yn fodlon. Eisingrug 23:17, 30 Awst 2010 (UTC)[ateb]