Sgwrs:Afon Owain

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Owain?[golygu cod]

Os cafodd yr afon ei henwi yn Owens River "ar ôl y mapiwr Richard Owens", sut all yr enw fod yn "Afon Owain"? Anatiomaros 22:31, 1 Awst 2010 (UTC)[ateb]

Gofynwch i Risiart Owain! Tarddiad y Saesnigiad Owens ydy Owain. Oni ddylem ni Gymreigio enwau fel hyn yn ôl i'r Gymraeg? Onid "Dinas Dafydd" a ddywedwn ac nid yr Hebraeg gwreiddiol? Ac felly Yr Ynys Las yn hytrach na Greenland ayb ayb. 78.147.73.246 22:54, 1 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Mae'n dibynnu ar sawl peth. Yn un peth rydym yn dibynnu ar ffynonellau: os ceir cyfeiriadau Cymraeg at yr afon fel 'Afon Owain' popeth yn iawn, ond rydym yn ceisio osgoi bathu enwau fel rheol. Ai 'Rhisiart Owain' oedd o? H.y. oedd o'n Gymro? Os oedd o ac os oedd yn defnyddio'r ffurf Gymraeg ar ei enw mae gennym sail dros dderbyn 'Afon Owain'. Fel rheol dydym ni ddim yn cyfieithu enwau estron ac yn defnyddio'r ffurf frodorol (Saesneg yn yr achos yma), oni bai fod Cymreigiad safonol yn bodoli (ac felly rydym yn defnyddio 'Yr Ynys Las' ayyb, wrth gwrs). Dyna'r sefyllfa. Anatiomaros 23:03, 1 Awst 2010 (UTC)[ateb]

Dolen wallus[golygu cod]

Gwirwyd y ddolen sawl tro ac fe'i cafwyd yn wallus. Trwsiwch neu ddilewch hi os gwelwch yn dda.

--Hazard-Bot (sgwrs) 02:04, 9 Mai 2012 (UTC)  Cwblhawyd[ateb]
Llywelyn2000 (sgwrs) 05:58, 1 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]