Sgwrs:Abaty

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Enwau'r abatai ar restr Cadw[golygu cod]

Dwi wedi cywiro rhai o'r rhain yn barod (gw. yma). Mae'n amlwg fod Cadw yn defnyddio enwau'r cymunedau neu'r lle agosaf, unwaith eto. E.e. "Abaty Llanddoged"(!) = Abaty Maenan (yng nghymuned Llanddoged a Maenan, Sir Conwy). Erys pedwar lleoliad sy'n peri penbleth, sef "Abaty Llanboidy", "Abaty Llangatwg Feibion Afael [=Llangatwg Feibion Afel]", "Abaty Dyffryn Clydach" ac "Abaty['r] Trallwng". Gweler Tai crefydd Cymru, sy'n cynnwys pob abaty, priordy a lleiandy hanesyddol yng Nghymru. Pam fod Cadw yn mynd yn groes i bob enw hanesyddol a llyfr hanes? Mae'n hurt. Anatiomaros 22:25, 18 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]

Wedi datrys un arall. "Abaty Llanboidy" = Abaty Hendy-gwyn ar Daf!!! Anatiomaros 22:38, 18 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]

Hurt bost! Ystrad Marchell oedd un o'r tri; erys dau yn ddirgelwch. Dw i wedi eu nodi ar yr erthygl i arbed amser, dros dro! Diolch am dy gymorth. Llywelyn2000 06:43, 19 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]
Diolch. Wedi datrys y ddau arall rwan: Abaty Nedd ac Abaty Grace Dieu. Anatiomaros 18:42, 20 Rhagfyr 2010 (UTC)[ateb]