Sgwrs:AIDS

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Sori am y symud nol ac ymlaen, ond wedi darllen trwyddo, roedd y rhan fwyaf o'r wybodaeth yn ymwneud â HIV wedi'r cyfan. --Ben Bore 07:35, 25 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Iawn, dim problem. Roedd gen i fy amheuon hefyd ar ôl ei gopïo i gychwyn yr erthygl! Basai'n braf cael peth deunydd am Gymru yma - ystadegau, dolenni ayyb - rhywbeth i wneud yn y dyfodol efallai? Anatiomaros 15:57, 25 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Mae rhywfaint o wybodaeth ar HIV/AIDS yng Nghymru ar gael yma. —Adam (sgwrscyfraniadau) 21:47, 16 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Dim ond un cwestiwn - o ble daw'r enw Cymraeg Syndrom Diffyg Imiwnolegol Caffaeledig? Dw i heb glywed y term erioed o'r blaen ac o wneud chwiliad cyflym ar Google, dyma'r unig wefan sy'n defnyddio'r term. Oni fyddai'n well cadw at yr enw AIDS (sef y term a ddefnyddir gan fudiadau HIV ac AIDS yng Nghymru?) Er gwybodaeth, mae GyA yn defnyddio AID (Afiechyd Imiwnedd Diffygiol). Pwyll 18:35, 3 Mehefin 2011 (UTC)[ateb]
Dwi'n credu mai fi wnaeth newid y term. Mae AIDS yn golygu 'acquired immune deficiency syndrome,' a'r cyfieithiad Cymraeg (yn ôl Cysgeir) ydy "Syndrom Diffyg Imiwnolegol Caffaeledig." Mae'r un peth yn y Saesneg; pe byddai rywun wedi dweud acquired immune deficiency syndrome wrthyf, byddwn fel "eh," ond dwi'n credu ei fod yn dda cael y cyfieithiad Cymraeg cywir yn yr erthygl hefyd. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 00:55, 5 Mehefin 2011 (UTC)[ateb]