Sgwd yr Eira

Oddi ar Wicipedia
Sgwd yr Eira
Mathrhaeadr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYstradfellte, Hirwaun Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7783°N 3.554°W Edit this on Wikidata
Map

Rhaeadr ar Afon Hepste, ger Ystradfellte, Powys, yw Sgwd yr Eira. Mae'n gorwedd yn ardal fynyddig y Fforest Fawr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac mae'n un o atyniadau mwyaf adnabyddus y parc hwnnw.

Mae'n disgyn 27 metr (tua 50 troedfedd) dros dalcen o graig rhwng dwy lan yr afon, sy'n culhau yma. Ar ôl llifo dros y graig mae'r afon yn lledu eto. Un filltir yn is i lawr mae'n ymuno yn Afon Mellte.

Ystyr y gair 'sgwd' yn nhafodiaith De Cymru yw "rhaeadr" ac mae 'eira' yn cyfeirio at wynder y dŵr sy'n disgyn dros y graig, yn ôl pob tebyg.

Mae'r rhaeadr hon yn unigryw yng Nghymru am ei fod yn bosibl cerdded y tu ôl iddi. Ceir llwybr yn y graig y tu ôl i'r dŵr a gall rhywun gerdded dan yr afon ei hun. Mae arwyddion yn rhybuddio am y posibilrwydd o greigiau sy'n disgyn, ac yn cynghori i bobl beidio ag aros wrth groesi. Caewyd y llwybr am gyfnod oherwydd y perygl hwn, ond ail-agorwyd yn 2008 ar ôl gwaith i ddiogelu'r graig [1]. Hefyd, mae'r graig yn llithrig ac felly rhaid gwisgo esgidiau addas.

Gellir cyrraedd y rhaeadr trwy ddilyn llwybr cyhoeddus hyd lan Afon Hepste o Ystradfellte, neu lwybr arall o Benderyn, lle mae arwyddion yn cynghori cerddwyr i ddilyn llwybr caniataol at y rhaeadrau yn hytrach na'r llwybr cyhoeddus.

Teledu[golygu | golygu cod]

Defnyddiwyd Sgwd yr Eira fel lleoliad yn y gyfres deledu Merlin (BBC). Dim ond y rhaeadr ei hun sydd i'w gweld, gyda'r dirwedd o'i chwmpas wedi'i thrawsnewid trwy effeithiau arbennig. Yn y bennod The Sins of the Father mae Myrddin ac Arthur yn marchogaeth ar hyd y llwybr tu ôl i'r rhaeadr er mwyn cyrraedd ogof ddirgel.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Popular waterfall reopens". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-31. Cyrchwyd 2010-08-12.
  2. 'Sgwd yr Eira', BBC Merlin Filming Locations.