Sgwatio

Oddi ar Wicipedia
Am y safle gorfforol, gweler cwrcwd. Am yr ymarfer i hyfforddi cryfder, gweler cyrcydu (ymarfer).
Symbol rhyngwladol y sgwatwyr

Meddiannu adeilad gwag (neu ran ohono) nad yw'r sgwatiwr yn ei berchen, yn ei rentu, na gyda chaniatâd i'w ddefnyddio yw sgwatio. Ers 1 Medi 2012, mae sgwatio mewn aneddiad yng Nghymru yn weithred anghyfreithlon. Amcangyfrifir fod dros biliwn o bobl yn sgwatio drwy'r byd[1] gan weithiau feddiannu ardaloedd cyfan, er enghraifft slymiau Mumbai neu Fafelas Rio de Janeiro.

Mae nifer helaeth o ganolfannau cymdeithasol a mannau cymunedol di-elw yn sgwatiau. Mae rhain eto (gan amlaf) yn ymwneud ag athrawiaethau gwleidyddol y sgwatiwr, fel arfer radical chwith, yn enwedig anarchiaeth. Enghreifftiau o'r math hyn o sgwatiau cymunedol yng Nghymru yw'r Ymbrela Coch a Du yng Nghaerdydd a'r prosiect Cwtch yn Abertawe.[2][3]

Y gyfraith yn y Deyrnas Unedig[golygu | golygu cod]

Ers 1977 yng Nghymru a Lloegr, roedd yn anghyfreithlon i fygwth neu i ddefnyddio trais er mwyn cael mynediad i adeilad lle yr oedd rhywun yn byw ac yn gwrthod i rywun arall cael mynediad. Pwrpas y ddeddf hon oedd i atal landlordiaid rhag defnyddio trais i ddadfeddiannu tenantiaid, ond enillodd yr enw "hawliau ysgwatwyr"[4] gan iddi gael ei defnyddio gan bobl nad oedd yn denantiaid. Hyd 2012, yr oedd sgwatio yn fater sifil ac yr oedd rhaid i berchennog yr adeilad ddwyn achos sifil a phrofi yr oedd y sgwatwyr yn tresmasu ar ei eiddo. Os oedd rhywun yn byw yn y tŷ cyn i'r sgwatwyr symud i mewn, ac wedi eu gwneud yn ddigatref, gallent mynd i mewn i'r adeilad a gorchymyn i'r sgwatwyr gadael. Yn yr achos hon, gall cyn-drigolion y tŷ galw ar yr heddlu i'w helpu.[5] Yn 2012 cafodd sgwatio mewn adeiladau preswyl ei wneud yn dramgwydd troseddol yng Nghymru a Lloegr, gan ddod â therfyn i "hawliau ysgwatwyr".[6] Bellach gellir cosbi sgwatio gan ddirwy o £5000 a dedfryd o garchar am chwe mis. Dan y ddeddf newydd, nid yw tenantiaid sydd y tu ôl â'u rhent yn sgwatio,[7] ac nid yw'r gyfraith wedi newid parthed adeiladau dibreswyl.[5]

Cymru[golygu | golygu cod]

Ers 1 Medi 2012, mae sgwatio mewn adeilad yng Nghymru, fel gweddill gwledydd Prydain, yn weithred anghyfreithlon.

Mae'r rhan fwyaf o sgwatwyr yn ei wneud er mwyn cael cartref, ond nid sicrhau annedd yw'r unig gymhelliant. Sgwatiodd (neu 'meddiannodd) aelodau o Gymdeithas yr Iaith mewn tai drwy bentref Rhyd ger Borthmadog yn 1975 fel protest yn erbyn y ffaith mai tŷ haf oedd bron pob adeilad. Gwnaed hyn hefyd yn Nerwen Gam a nifer o dai haf ledled Cymru yn y 1970au a'r 80au. Dyma enghraifft o sgwatio fel gweithred wleidyddol uniongyrchol.

Yr Alban[golygu | golygu cod]

Yn yr Alban, mae sgwatio wedi bod yn anghyfreithlon ers y 19g.[5]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Forum: Qualitative Social Research, Review: Shadow Cities
  2. "Radical Wales, New sqquatted social centre in Cardiff". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-02-15. Cyrchwyd 2012-05-22.
  3. "Radical Wales, Community squatting comes to Swansea". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-28. Cyrchwyd 2012-05-22.
  4. Lewis, Robyn. Termau Cyfraith (Llandysul, Gwasg Gomer, 1972), t. 176.
  5. 5.0 5.1 5.2 (Saesneg) Q&A: Squatting laws. BBC (31 Awst 2012). Adalwyd ar 31 Awst 2012.
  6. (Saesneg) Johnson, Wesley (31 Awst 2012). New law 'shuts door' on squatters. The Independent. Adalwyd ar 31 Awst 2012.
  7. (Saesneg) Squatting set to become a criminal offence. BBC (31 Awst 2012). Adalwyd ar 31 Awst 2012.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Alexander Vasudevan, The Autonomous City: A History of Urban Squatting (Llundain: Verso, 2017),