Sgwâr Leicester
Oddi ar Wicipedia
Mae Sgwâr Leicester (Saesneg: Leicester Square; ynganer /ˈlɛstɚ/) yn sgwâr yn West End Llundain, Lloegr. Lleolir y sgwâr gyda Stryd Lisle Street, i'r gogledd; Heol Charing Cross i'r dwyrain; Stryd Orange i'r de; a Stryd Whitcomb, i'r gorllewin. Mae Sgwâr Leicester o fewn Dinas San Steffan a thua'r un pellter (tua 400 llath/370 medr) i'r gogledd o Sgwâr Trafalgar, i'r dwyrain o Piccadilly Circus, i'r gorllewin o Covent Garden, ac i'r de o Cambridge Circus.