Sgurr a' Mhaoraich
| Sgurr a'Mhaoraich (Ucheldir yr Alban) |
|
|---|---|
| Cyfieithiad | Copa Cregyn y Môr |
| Iaith | Gaeleg yr Alban |
| Testun y llun | Kinloch Hourn. Loch Hourn ar ddiwedd llwybr troellog 20km gyda Sgurr a'Mhaoraich fel cawr yn y cefndir. |
| Uchder (m) | 1027 |
| Uchder (tr) | 3369 |
| Amlygrwydd (m) | 706 |
| Lleoliad | Ucheldir yr Alban |
| Map topograffig | Landranger 33; Explorer 414S |
| Cyfesurynnau OS | NG983065 |
| Gwlad | yr Alban |
| Dosbarthiad | Marilyn, Munro, Murdo a HuMP |
Mae Sgurr a'Mhaoraich neu Sgurr a' Mhaoraich yn gopa mynydd a geir i'r gogledd o Loch Quoich, ar y daith o Glen Shiel i Loch Hourn a Loch Quoich yng ngogledd-orllewin Ucheldir yr Alban; cyfeiriad grid NG983065. Ceir carnedd ar y copa. Y fam-fynydd yw Gleouraich. Caiff ei adnabod yn bennaf fel Munro.
Arferid ei alw'n Sgurr a' Mhoraire sef "Copa'r Tirfeddiannwr", ond credir bellach mai "cregyn" ("maorach") yw tarddiad yr enw, gan fod ochrau cribau'r mynydd yn greithiau i gyd - fel y rhychau ar ymyl cragen.
Dosberthir copaon yr Alban yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Munro, Murdo a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Ailfesurwyd uchder y copa hwn ddiwethaf ar 15 Ionawr 2003.
Gweler hefyd [golygu]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr o gopaon yr Alban dros 610 metr
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 3,000' (y Munros)