Sgiwen fawr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Sgiwen Fawr)
Sgiwen fawr
Catharacta skua

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Stercoraridae
Genws: Stercorarius[*]
Rhywogaeth: Stercorarius skua
Enw deuenwol
Stercorarius skua
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Sgiwen fawr (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: sgiwennod mawrion) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Catharacta skua; yr enw Saesneg arno yw Great skua. Mae'n perthyn i deulu'r Sgiwennod (Lladin: Stercoraridae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. skua, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Ewrop, Affrica ac Awstralia.

Mae'r Sgiwen Fawr yn un o'r mwyaf o'r sgiwennod, tua 50–58 cm o hyd a 125–140 cm ar draws yr adenydd. Mae'n nythu yng Ngwlad yr Ia, Norwy, Ynysoedd Faroe ac ynysoedd yr Alban, ar dir agored fel rheol. Dodwyir dau wy fel rheol, ac mae'r aderyn yn ymosod ar unrhyw anifail sy'n dod yn rhy agos at y nyth, gan gynnwys bodau dynol. Mae'n aderyn mudol, yn symud tua'r de a thua'r gorllewin i dreulio'r gaeaf, gan gyrraedd cyn belled ag arfordir Gogledd America.

Mae'n aderyn gweddol gyffredin o gwmpas glannau Cymru yn yr hydref, a gellir gweld nifer llai yn y gwanwyn ac ambell un yn ystod y gaeaf.

Teulu[golygu | golygu cod]

Mae'r sgiwen fawr yn perthyn i deulu'r Sgiwennod (Lladin: Stercoraridae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Sgiwen Magellan Stercorarius chilensis
Sgiwen Pegwn y De Stercorarius maccormicki
Sgiwen fach Stercorarius pomarinus
Sgiwen fawr Stercorarius skua
Sgiwen frown Stercorarius antarcticus
Sgiwen lostfain Stercorarius longicaudus
Sgiwen y Gogledd Stercorarius parasiticus
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
Stercorarius skua

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Safonwyd yr enw Sgiwen fawr gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.