Sgandal lobïo Indiaidd Jack Abramoff
Mae sgandal lobïo Indiaidd Jack Abramoff yn sgandal gwleidyddol Americanaidd sy'n gysylltiedig â gwaith perfformiwyd gan y lobïwyr gwleidyddol Jack Abramoff, Ralph E. Reed, Jr., Grover Norquist a Michael Scanlon dros fuddiannau gamblo casino Indiaidd am amcangyfrif o $85 miliwn mewn taliadau. Gorfiliodd Abramoff a Scanlon eu cleientiaid, a rhannon nhw'r elw o filiynau o ddoleri yn gyfrinachol.
Yng nghwrs y cynllun, mae'r lobïwyr wedi'u cyhuddo o roi anrhegion a rhoddion ymgyrch yn anghyfreithlon i ddeddfwyr mewn gyfnewid am bleidleisiau neu gefnogaeth deddfwriaeth. Mae'r cynrychiolydd Bob Ney (R-OH) a gweinydd i Tom DeLay (R-TX) wedi'u ymhlygu'n syth; mae gan wleidyddion eraill, y rhan fwyaf ohonynt yn ddeddfwyr Gweriniaethol, sydd â chysylltiadau â materion Indiaidd clymau amrywiol. Mae ôl-effeithiau'r ymchwiliad wedi achosi DeLay i ymddiswyddo o'i swydd fel arweinydd Tŷ'r Cynrychiolwyr.
Mae Scanlon ac Abramoff wedi pledio'n euog i amrywiaeth o gyhuddiadau cysylltiedig â'r gynllun.
Ar Ddydd Gwener, 25 Tachwedd, 2005, adroddodd The Wall Street Journal ehangiad ymchwiliad pedair aelod o'r Cyngres: yn ogystal â Ney a DeLay, mae'r adroddiad yn cynnwys y Cyn. John Doolittle (G., Calif.) a'r Llyw. Conrad Burns (G., Mont.) [1] Ar 2 Rhagfyr, 2005, adroddodd The New York Times fod erlynyddion ffederal yn ystyried trefniant plediad bargeniol a fydd yn rhoi tipyn o ystyriaeth i Abramoff os rhoddai dystiolaeth bydd yn ymhlygu bod aelodau'r Cyngres a'u staffwyr hŷn wedi derbyn cynigion swydd mewn gyfnewid am ffafrau deddfwriaethol.
Ar 3 Ionawr, 2006, plediodd Abramoff yn euog i dri gyhuddiad ffeloniaeth — cynllwyn, twyll ac osgoi treth — ynglŷn â chyhuddiadau yn dod yn benodol o'i weithgareddau lobïo yn Washington ar ran llwythi Americanawyr Brodorol. Hefyd, mae angen i Abramoff a ddiffynyddion eraill wneud adferiad o o leiaf $25 miliwn â amddifadwyd trwy dwyll o gleientiaid, yn enwedig y lwythi Americanwyr Brodorol. Ymhellach, mae Abramoff $1.7 miliwn mewn dyled i'r IRS fel ganlyniad o'i ble euog i'r cyhuddiad o osgoi treth.[2]. Mae ffeil y llys ar gael fel PDF.[3]
Mae'r cytundeb yn honni y gwnaeth Abramoff llwgrwobrwyo swyddogion cyhoeddus. Mae un o'r achosion o lwgrwobrwyo â ddisgrifwyd yn fanwl am berson â adnabwyd fel "Representative #1," â adroddir gan The Washington Post i fod yn y Gynrychiolydd Bob Ney (R-OH). Cadarnhaodd llefarydd Ney taw Ney oedd y Cynrychiolydd â nodir, ond gwadodd unrhyw ddylanwad amhriodol.[4] Mae'r cytundeb hefyd yn manylu ar ymarfer Abramoff o gyflogi staffwyr Cyngresol blaenorol. Defnyddiodd Abramoff ddylanwad y bobl yma i lobïo eu cyflogwyr Cyngresol blaenorol, yn groes i waharddiad ffederal un-mlynedd ar y fath lobïo.[5][6]
Ar ôl ple Abramoff o euogrwydd, symudwyd ymchwiliadau i Ionawr cynnar 2006 er mwyn canolbwyntio ar gwmni lobïo Alexander Strategy Group [7], sefydlwyd gan "cyfaill agos o DeLay a'i phennaeth staff blaenorol."[8] Cyhoeddoedd y cwmni lobïo y byddai'n cau erbyn diwedd yr un mis oherwydd "cyhoeddusrwydd angheuol"; roedd wedi cynrychioli cwmnïau mawr megis Microsoft a PhRMA. Ar 1 Mai, 2006, cytunodd y Gwasanaeth Cudd i ryddhau logiau o bob cyfarfod â Jack Abramoff ar neu cyn 10 Mai.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ (Saesneg)"Four congressmembers role in Abramoff lobbying scandal probed", The Raw Story.
- ↑ (Saesneg)"Lobbyist Abramoff Pleads Guilty to Fraud Charges", NPR, 03 Ion, 2006.
- ↑ (Saesneg) Ple euog Abramoff – ffeil y llys
PDF - ↑ (Saesneg)"GOP Leaders Seek Distance From Abramoff", The Washington Post, 04 Ion, 2006.
- ↑ (Saesneg) Defnydd dylanwad staffwyr cyngresol blaenorol i lobïo eu cyflogwyr Cyngresol blaenorol
PDF - ↑ (Saesneg)"Lobbyist case threatens Congress", BBC News, 04 Ion, 2006.
- ↑ (Saesneg) Alexander Strategy Group
- ↑ (Saesneg)"U.S. lobbying inquiry shifts to a second firm", International Herald Tribune, 08 Ion, 2006.
Cysylltiadau allanol [golygu]
- Newyddion
- (Saesneg) The Abramoff Galaxy: Washington Post Graphic
- (Saesneg) "How Abramoff Spread the Wealth", The Washington Post, 12 Rhagfyr, 2005.
- (Saesneg) "The Fast Rise and Steep Fall of Jack Abramoff", The Washington Post, 29 Rhagfyr, 2005.
- (Saesneg) "Unraveling Abramoff", The Washington Post, 3 Ionawr, 2006.
- (Saesneg) BBC News – Q&A: Jack Abramoff scandal
- Barnau