Sextans A

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Galaeth Sextans A yn y Grŵp Lleol trwy fater rhyngserol y Llwybr Llaethog. Clystyrau o sêr newydd yw'r rhannau lliw glas yn y llun.

Galaeth corrach afreolaidd bychan yw Sextans A (UGCA 205). Mae'n mesur tua 5000 blwyddyn goleuni ar draws ac mae'n gorwedd yn y Grŵp Lleol, y grŵp o alaethau a gwrthrychau eraill sy'n cynnwys y Llwybr Llaethog, ein galaeth ni.

Ar bellter o 4.3 miliwn blwyddyn goleuni o'r Ddaear, Sextans A yw un o'r aelodau mwyaf pellenig yn y Grŵp Lleol, ac fe'i nodweddir gan ei ffurf sgwâr anghyffredin. Credir fod hyn yn ganlyniad i ffrwydro sêr anferth byrhoedlog yn supernovae gan achosi creu rhagor o sêr a'r rhai hynny yn eu tro yn creu rhagor o supernovae wedyn, gan arwain yn y pendraw at greu plusgen ymestynnol sy'n edrych fel siâp sgwâr o safbwynt rhywun ar y Ddaear. Mae'n gorwedd yn y rhan o'r awyr a adnabyddir fel Cytser Sextans. Y galaeth agosaf iddo yw Sextans B.

Dolenni allanol[golygu]