Seven Pounds (ffilm)
Oddi ar Wicipedia
![]() Poster y Ffilm |
|
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Gabriele Muccino |
| Cynhyrchydd | Todd Black Jason Blumenthal James Lassiter Will Smith Steve Tisch |
| Ysgrifennwr | Grant Nieporte |
| Serennu | Will Smith Rosario Dawson Woody Harrelson Michael Ealy Barry Pepper |
| Cwmni Cynhyrchu | Columbia Pictures |
| Dyddiad rhyddhau | UDA a Canada 19 Rhagfyr, 2008 DU 16 Ionawr, 2009 |
| Amser rhedeg | 123 munud |
| Gwlad | Unol Daleithiau |
| Iaith | Saesneg |
Mae Seven Pounds (2008) yn ffilm ddrama emosiynol a gyfarwyddwyd gan Gabriele Muccino. Mae Will Smith yn serennu fel dyn sy'n bwriadu newid bywydau saith o ddieithriaid. Mae Rosario Dawson, Woody Harrelson, a Barry Pepper hefyd yn serennu yn y ffilm. Rhyddhawyd y ffilm mewn theatrau yn Unol Daleithiau America a Chanada ar yr 19eg o Ragfyr, 2008 ac ar yr 16eg o Ionawr, 2009 yn y DU. Hyd yn hyn, mae'r ffilm wedi gwneud dros 100 miliwn ($ UDA) gan wneud y ffilm hon y nawfed ffilm sy'n serennu Will Smith sydd wedi gwneud dros 100 miliwn o ddoleri.
