Seth Rogen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rogen, 2011

Mae Seth Rogen (ganed 15 Ebrill, 1982) yn actor, digrifwr a chynhyrchydd ffilmiau o Ganada.

Wedi iddo gael swydd ar y gyfres olaf o Da Ali G Show, (sioe a enwebwyd am Emmy), cafodd Rogen ei arwain gan Judd Apatow tuag at yrfa ym myd y ffilm. Cafodd ran gefnogol blaenllaw yn ffilm gyntaf Apatow fel cyfarwyddwr, The 40-Year-Old Virgin. Derbyniodd feirniadaethau clodwiw am ei berfformiad a chytunodd Universal Pictures i'w gastio fel y prif gymeriad yn ffilm nesaf Apatow sef Knocked Up.