Sergey Lavrov

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Sergei Lavrov)
Neidio i: llywio, chwilio
Sergey Lavrov
Sergey Lavrov

Deiliad
Cymryd y swydd
9 Mawrth, 2004
Arlywydd Vladimir Putin (9 Mawrth, 2004–7 Mai, 2008), Dmitry Medvedev (7 Mai, 2008–presennol)
Prif Weinidog Mikhail Fradkov (9 Mawrth, 2004–14 Medi, 2007), Viktor Zubkov (14 Medi, 2007–7 Mai, 2008), Vladimir Putin (7 Mai, 2008–presennol)
Rhagflaenydd Igor Ivanov

Geni (1950-03-21)

Mawrth 21, 1950 (64 oed)
Moscfa, yr Undeb Sofietaidd

Gweinidog Tramor Rwsia yw Sergey Viktorovich Lavrov (Rwseg: Серге́й Ви́кторович Лавро́в, ganwyd 21 Mawrth, 1950, ym Moscfa).

Daw Lavrov o dras Armenaidd-Rwsiaidd; Armeniad o Tbilisi oedd ei dad.[1]

Mae Lavrov yn medru yn Rwseg, Saesneg, Ffrangeg, a Sinhaleg, a ddysgodd i siarad tra yn Sri Lanka.[2]

Ar 9 Mawrth, 2004 penodwyd Lavrov i olynu Igor Ivanov yn swydd y Gweinidog Tramor gan yr Arlywydd Putin.

Yn Rhagfyr 2006 enwyd Lavrov yn "Berson y Flwyddyn" gan y cylchgrawn Rwsiaidd Expert.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Saesneg) Ghazinyan, Aris. From Russia With Love?: Foreign Minister's visit an opportunity for assessment. ArmeniaNow. Adalwyd ar 27 Mehefin, 2008.
  2. (Saesneg) Russia's deep suspicion of the West. BBC (15 Rhagfyr, 2007). Adalwyd ar 27 Mehefin, 2008. "He speaks beautiful English, French, and according to his biography, Sinhalese, which he learned while posted to Sri Lanka in the 1970s."

Cysylltiadau allanol[golygu]