Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2012 - Ras ffordd merched

Oddi ar Wicipedia
Seiclo yng
Ngemau Olympaidd yr Haf 2012
Beicio Mynydd
Traws-gwlad dynion merched
BMX
BMX dynion merched
Seiclo Ffordd
Ras ffordd   dynion   merched
Treial amser dynion merched
Seiclo Trac
Pursuit tîm dynion merched
Sbrint dynion merched
Sbrint tîm dynion merched
Ras bwyntiau dynion merched
Keirin dynion merched
Omnium dynion merched

Cynhaliwyd ras ffordd merched Gemau Olympaidd yr Haf 2012 ar 29 Gorffennaf yn Llundain.[1] Roedd y ras yn 140.3 cilometr (87.18 milltir) o hyd a gwblhawyd mewn 3 awr 52' 29", sef 36.21 cilometr yr awr (22.5 milltir yr awr). Cynhaliwyd y ras yn y glaw, gyda Marianne Vos o'r Iseldiroedd yn ennill, Lizzie Armitstead o Brydain yn ail a Olga Zabelinskaya o Rwsia yn drydedd.[2]

Llwybr[golygu | golygu cod]

Box Hill, Surrey

Cychwynnodd y ras ffordd ar y Mall, gan deithio allan o Lundain i'r de-orllewin a chroesi Afon Tafwys dros bont Putney, gan basio drwy Richmond Park a Twickenham a heibio Hampton Court Palace.

Aethont ymlaen i Surrey, drwy Walton-on-Thames, Byfleet, Ripley, Westcott a Dorking, gan gwblhau dau gylch anodd a gychwynnodd fyny Box Hill ac aeth o amgylch Headley Heath a thrwy Mickleham.[3]

Wedyn, teithiodd i'r gogledd gan ddychwelyd drwy Leatherhead, Esher a Kingston-upon-Thames, a thrwy Richmond Park unwaith eto i orffen ar y Mall.[4][5][6]

Rhestr gychwyn[golygu | golygu cod]

Y peloton yn fuan wedi cychwyn y ras, yn teithio o Lundain tuag at Box Hill.
Tair enillydd medalau'r ras ffordd yn mynd heibio Upper Richmond Road yn ne-orllewin Llundain, tua 10km o'r diwedd. O'r chwith i'r dde: Lizzie Armitstead, Marianne Vos a Olga Zabelinskaya.

Cyhoeddwyd darpar restr gychwyn ar 23 Gorffennaf, gan gynnwys 67 reidiwr.[7] Cyhoeddwyr y rhestr terfynol gan gynnwys 66 reidiwr,[8] wedi'i gywiro gan dynnu Lee Wai Sze oddi ar y rhestr, gan adael Hong Kong gyda dim ond yr un reidiwr oeddent wedi cymhwyso, a phenderfynodd y tîm Almaenig gyfnewid Charlotte Becker am Claudia Häusler.[9]

Roedd Nicole Cooke, enillydd 2008, yn ceisio amddiffyn ei theitl. Roedd y ffefrynnau eraill yn cynnwys yr Iseldirwyr Annemiek van Vleuten a Marianne Vos (er bod Vos wedi torri pont ei hysgwydd dim ond deufis ynghynt),[10] y reidiwr Eidalaidd Giorgia Bronzini, enillydd y fedal arian yn 2008, sef Emma Johansson o Sweden, a Judith Arndt o'r Almaen.[11][12]

Y ras[golygu | golygu cod]

Cystadlwyd y ras yn y glaw, ond er hynny roedd cryn dorf wedi ymgasglu ar hyd y ffyrdd.[13] Bu'n ras frwydrol â nifer o ymosodiadau'n aflwyddiannus oherwydd roedd y gwynt yn ei wneud yn anodd iawn i ennill tir. Yn fuan cyn pasio drwy Dorking, llwyddodd Ellen van Dijk o'r Iseldiroedd i dorri oddi ar y blaen wedi sawl ymgais, ac ymunodd Audrey Cordon (Ffrainc) â hi, ond daliwyd hwy cyn cyrraedd Box Hill. Yno y disgwyliwyd yr ymosodiadau allweddol, fe ddaeth yr ymosodiadau'n llu ond cafodd pob un ei farcio'n agos. Roedd Judith Arndt o'r Almaen ac Emma Pooley o Brydain ymysg y rhai a geisiodd ddianc ar yr esgyniad cyntaf.[14] Ychydig cyn ail esgyniad Box Hill, bu damwain gyda Phencampwr Treial Amser y Byd, Kristin Armstrong yn taro'r llawr. Cafodd nifer o reidwyr eraill eu dal nôl gan y ddamwain, gan gynnwys Nicole Cooke.[14]

Gyda 63 km i fynd, ymosododd Emma Pooley, aeth Marianne Vos gyda hi ond ni chafodd hi'n hawdd i'w dal. Bu damwain wrth i Loes Gunniewijk (yr Iseldiroedd) ddod i lawr yn y peleton. Wedi pedair munud oddi ar y blaen, caiff Pooley a Vos eu dal. Aeth Pooley ati'n union i ymosod eto, y tro yma, aeth ei chyd-aelod tîm, Lizzie Armitstead, Amber Neben (UDA) a Vo, ond nid yw'n parhau'n hir. Daeth y symudiad perderfynnol o'r diwedd, pan ymosododd Olga Zabelinskaya o Rwsia oddi ar flaen y peleton. Deliwyd hi gan Marianne Vos gyda 50 km i fynd yn y ras, wedi ymosodiad ar Tott Hill a ddilynwyd gan Armitstead a Shelley Olds o'r Unol Daleithiau. Gyda 29 km i fynd[14] dioddefodd Olds deiar fflat, a buan y deliwyd hi gan y peleton a oedd erbyn hyn lawr i 35 reidiwr, gan adael tair reidiwr yn unig i fyny'r ffordd.[15][16] Gyda Olds wedi ei dal, a'r bwlch wedi ymestyn i 40 eiliad,[14] dechreuodd yr Americanwyr helpu'r Almaen ar y blaen. Yn fuan wedyn dechreuodd yr Eidal a Sweden gyfrannu at y gwaith.[13]

Wrth i'r linell orffen agosáu dechreuodd y bwlch amser leihau, ond ni ddisgynnodd o dan 20 eiliad.[13] Roedd Zabelinskaya wedi blino erbyn hyn, ac nid oedd yn gallu cyfrannu i'r gwaith ar y blaen i'r un raddfa a Vos ac Armitstead, a gorfodont iddi fynd i'r blaen ddwywaith er mwyn cadarnhau na fyddai'r peleton yn eu dal. Nid oedd ond 20 reidiwr yn eu herlyn erbyn hyn, gyda'r cyflymder wedi codi er mwyn ceisio dal y dair ar y blaen. Er ei bod wedi blino, ceisiodd Zabelinskaya ymosod gyda chilometr i fynd, ond doedd yr egni ddim ganddi.[14] Vos gychwynnodd y sbrint gyda 200 metr i fynd ond nid oedd gan Armitstead ymateb,[14] cafodd ei churo gan gryfder Vos yn y pen draw,[17] gyda Zabelinskaya yn rholio dros y llinell i hawlio'r fedal efydd.[2][15]

Arweinwyd y peleton dros y linell gan Ina Teutenberg o'r Almaen,[13] gyda Giorgia Bronzini ac Emma Johansson yn dynn ar ei sawdl, a Shelley Olds yn seithfed.

Canlyniadau[golygu | golygu cod]

Yr un amser (u.a.)
Dros y terfyn amser (DTA)
Odan rheolau'r UCI ar gyfer rasys un dydd (erthygl 2.3.039), "Ni fydd unrhyw reidiwr sy'n gorffen mae'n amser sydd yn fwy na 5% dros amser yr enillydd yn cael safle."[19] Rhoddodd amser yr enillydd, Marianne Vos, derfyn amser o 3 awr, 45 munud a 15 eiliad.
Heb orffen (HO)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Olympic sport competition schedule. London 2012. Adalwyd ar 15 Mawrth 2012.
  2. 2.0 2.1  Vos wins thrilling Road Race. London 2012 (29 Gorffennaf 2012).
  3.  Road Race competition format. London2012.com. Adalwyd ar 2 Awst 2012.
  4. (Ffrangeg) Le parcours officielemment dévoilé. cyclismactu.fr.
  5.  London 2012 website on road cycling. London2012.com. Adalwyd ar 25 Hydref 2011.
  6.  Course map. London2012.com. Adalwyd ar 2 Awst 2012.
  7.  London 2012 Olympic Games: Women's road race start list. cyclingweekly.co.uk (23 Gorffennaf 2012).
  8.  Women's road race. london2012.com. Adalwyd ar 28 Gorffennaf 2012.
  9. (Almaeneg) BDR benennt Frauen-Aufgebot (28 Gorffennaf 2012). Adalwyd ar 28 Gorffennaf 2012.
  10.  Broken collarbone for Vos. Cycling News (25 Mai 2012). Adalwyd ar 2 Awst 2012.
  11. (Ffrangeg) Présentation de la course en ligne. cyclismactu.net.
  12. (Ffrangeg) Dimanche, place aux femmes. velochrono.fr.
  13. 13.0 13.1 13.2 13.3  Daniel Benson (29 Gorffennaf 2012). Teutenberg just outside the medals at London Olympic road race. Cycling News. Adalwyd ar 2 Awst 2012.
  14. 14.0 14.1 14.2 14.3 14.4 14.5  Barry Glendenning (29 Gorffennaf 2012). Olympic road race: women's cycling – as it happened. The Guardian. Adalwyd ar 2 Awst 2012.
  15. 15.0 15.1  Daniel Benson (29 Gorffennaf 2012). Vos completes Olympic circle after road race win. Cycling News. Adalwyd ar 2 Awst 2012.
  16.  Laura Weislo (29 Gorffennaf 2012). Puncture means heartbreak for Olds in Olympic road race. Cycling News. Adalwyd ar 2 Awst 2012.
  17.  Daniel Benson (29 Gorffennaf 2012). Silver lining for Armitstead in London. Cycling News. Adalwyd ar 2 Awst 2012.
  18.  Women's Road Race. london2012.com (29 Gorffennaf 2012). Adalwyd ar 2 Awst 2012.
  19. (1 Chwefror 2012) UCI Cycling Regulations, Part II: Road Races. UCI, tud. 31. URL

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia