SeaEnergy plc
Math | busnes |
---|---|
Sefydlwyd | 1977 |
Pencadlys | Aberdeen |
Cwmni ynni o'r Alban yw SeaEnergy plc. Mae'n gweithio ym maes ynni adnewyddadwy, yn enwedig o'r môr. Lleolir ei bencadlys yn Aberdeen. Ei hen enw oedd "Ramsco Energy", cwmni a sefydlwyd yn 1977; newidiwyd yr enw i "SeaEnergy plc" yn 2008.[1]
Fel Ramsco Energy, gweithiodd y cwmni mewn partneriaeth gyda Midmar Energy i sefydlu'r Mesopotamia Petroleum Company (MPC) yn 2005 er mwyn cynhyrchu olew yn Irac mewn menter ar y cyd â llywodraeth y wlad honno. Ond yn 2009, penderfynodd ganolbwyntio yn llwyr ar ynni adnewyddadwy. Er hynny mae'n dal i berchen rhanddaliadau sylweddol ym MPC.[2]
Mae'r cwmni yn weithgar ym Môr y Gogledd oddi ar arfordir yr Alban lle mae wedi datblygu prosiect ynni gwynt allfor gyda'r tyrbinau gwynt mwyaf yn y byd.[3]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ History. SeaEnergy.
- ↑ Legacy Oil & Gas Interests. SeaEnergy.
- ↑ Beatrice Wind Farm. SeaEnergy.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
- (Saesneg) Gwefan y cwmni Archifwyd 2010-01-24 yn y Peiriant Wayback.