Scroogle

Oddi ar Wicipedia

Gwasanaeth gwe oedd Scroogle oedd yn dieithrio cyfeiriad rhyngrwyd (cyfeiriad IP) defnyddwyr sy'n dymuno gwneud chwiliadau Google yn anhysbys neu ddi-enw, sef heb ddatguddio gwybodaeth bersonol. Yn ogystal roedd Scroogle yn cynnig yr opsiwn o amgodiad SSL ar gyfer pob neges oedd yn pasio rhwng ei gyfrifiadur a'r dudalen chwilio.

Crëwyd yr offeryn hwn gan Daniel Brandt, beirniad blaenllaw o Google, yn 2003 am ei fod yn poeni fod Google yn hel gwybodaeth am ei ddefnyddwyr yn ddiarwybod iddynt. Creodd Scroogle i ffiltrio chwiliadau trwy ei wasanaethyddion cyn iddynt fynd i Google. Dydy canlyniadau'r chwiliadau ddim yn cael eu cadw ac mae'r logiau yn cael eu dileu bob wythnos. Gan nad oedd Scroogle yn cyfatebu ymholiadau gyda chyfeiriad IP y defnyddiwr nid oedd yn bosibl gwybod pwy a ofynnodd am beth, hyd yn oed pe bai'r logiau chwiliad ar gael ac felly roedd preifatrwydd y defnyddiwr yn ddiogel. Cred Brandt ac eraill fod Google yn camddefnyddio'r wybodaeth a gesglir weithiau a bod ei led-fonopoli yn fygythiad i ryddid ar y rhyngrwyd.

Dyblodd traffig Scroogle rhwng Rhagfyr 2007, pan oedd yn cael 100,000 ymwelydd y dydd, a Mehefin 2009.

Yn ogystal â chwilio'n anhysbys, caniataodd Scroogle i'r defnyddiwr chwilio'r we trwy Google heb dderbyn hysbysebion Google. Bu dewis o 28 iaith (dim ar gael yn Gymraeg). Roedd ar gael fel dyfais plygio-i-mewn i rhai porwyr fel Mozilla Firefox hefyd.

Ceir rhai peiriannau chwilio eraill sy'n cynnig gwasanaethau cyffelyb, e.e. ixQuick.

Cafodd ei gau yn Chwefror 2012.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]