Screaming Lord Sutch

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Screaming Lord Sutch

Yr oedd David Edward Sutch neu'r Screaming Lord Sutch (Cymraeg: Arglwydd Sgrechlyd Sutch) (10 Tachwedd, 194016 Mehefin, 1999) yn gerddorwr roc, gwleidydd a maferic o Sais. Cafodd yrfa hir fel cerddor dan ei lysenw 'Screaming Lord Sutch' a daeth yn adnabyddus i gynulleidfa ehangach fel sylfaenydd ecsentrig yr 'Official Monster Raving Loony Party' a safai mewn nifer o etholiadau ac is-etholiadau yn y 1980au a'r 1990au, yn aml yn erbyn gwleidyddion amlwg. Roedd yn gymeriad unigryw a ddaeth â lliw a hiwmor i'r llwyfan wleidyddol ym Mhrydain.

Sefydlodd yr 'Official Monster Raving Loony Party' yn 1983 ac ymladdodd yn is-etholiad Bermondsey. Yn ystod ei yrfa safodd mewn dros 40 etholiad. Roedd yn ffigwr hawdd i'w adnabod yn y cownt etholiadol oherwydd ei ddillad lliwgar. Yn fuan ar ôl iddo ennill rhai cannoedd o bleidleisiau yn etholiad Finchley yn 1983, gan achosi cryn embaras i Margaret Thatcher ar y noson, y codwyd y deposit a delir gan ymgeisgwyr etholiad o £150 to £500. Parhaodd Sutch i sefyll, fodd bynnag, gan ddefnyddio ei enillion o'i gynherddau roc i dalu am ei ymgyrchoedd tafod-mewn-boch. Bu ar raglen gyntaf y gyfres deledu ddychanol The New Statesman ar ITV - fel ef ei hun - gan ddod yn ail yn ffug etholiad 1987 (o flaen ymgeiswyr Llafur a'r SDP) a welodd Alan B'Stard (cymeriad Rick Mayall) yn cael ei ethol i San Steffan.


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.