Y Sblot

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Sblot)
Y Sblot
Mathmaestref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.48357°N 3.15349°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001005 Edit this on Wikidata
Cod OSST200767 Edit this on Wikidata
Cod postCF24 Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad ward y Sblot o fewn Caerdydd

Ardal yn ninas Caerdydd, prifddinas Cymru, yw Y Sblot neu Sblot (Saesneg: Splott) ac ardal ddeheuol hen blwyf Y Rhath sydd wedi'i lleoli rhwng y môr a phrif lein y rheilffordd. Agorwyd y cyntaf o feysydd awyr sifil Cymru ar Rostir Pen-Gam yn 1930 a'i chau yn 1954. Bellach, ceir yma: barciau busnes, tai, gwaith trin dŵr a Chanolfan Tennis Genedlaethol Cymru. Cwbwlhawyd Cysylltffordd Dwyrain y Bae ar ddechrau'r 2010au a disgwylir i'r ardal ddatblygu'n economaidd.[1]

Yr enw[golygu | golygu cod]

Daw'r enw o'r gair Hen Saesneg splott sy'n golygu 'darn o dir' (plot). Arosai'r enw'n fyw ar lafar yn ne-orllewin Lloegr am glwt o dir ac mae'n digwydd mewn enwau lleoedd am gaeau a ffermydd yn yr ardal honno. Dichon i'r enw tarddu o gyfnod y Normaniaid. Ei ystyr yn syml felly yw 'clwt' neu 'ddryll' o dir. Ceir manylion pellach yn llyfr Bedwyr Lewis Jones, Yn ei Elfen.

Hanes[golygu | golygu cod]

Ardal wledig a oedd yn eiddo i'r Eglwys oedd Sblot yn y Canol Oesoedd, ond erbyn 1891 roedd tai wedi eu hadeiladu ar gyfer gweithwyr gwaith dur East Moors ond caewyd y gwaith yn 1987.

Ffuglen[golygu | golygu cod]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Y Sblot (pob oed) (13,261)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Sblot) (1,077)
  
8.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Sblot) (9869)
  
74.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Y Sblot) (2,175)
  
37.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; cyhoeddwyd 2008.
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]