Sbaen Newydd
Oddi ar Wicipedia
Delwedd:Cross of Burgundy flag of Bourbon Spain.jpg.svg
Baner Sbaen Newydd
Rhan o Ymerodraeth Sbaen oedd Is-deyrnas Sbaen Newydd (Sbaeneg: Nueva España). Sefydlwyd yr is-deyrnas (Virreinato) yn 1530, ychydig flynyddoedd wedi i Hernán Cortés gipio dinas Tenochtitlan. Parhaodd nes i Mexico ennill annibyniaeth yn 1821; cydnabuwyd Mexico fel gwlad annibynnol gan Sbaen yn 1836).
Prifddinas yr is-deyrnas oedd Dinas Mexico. Rheolid Sbaen Newydd gan Is-frenin, a benodiid gan frenin Sbaen. Roedd yn ymestyn o Costa Rica hyd at ffîn ogleddol tiriogaethau Sbaen yng Ngogledd America, oedd yn ymestyn i ran o'r hyn sy'n awr yn ffurfio'r Unol Daleithiau. Roedd y Ffilipinau a'r tiriogaethau Sbaenaidd yn y Caribî hefyd yn rhan o Sbaen Newydd, er fod ganddynt fesur helaeth o ymreolaeth.