Saws Hollandaise

Oddi ar Wicipedia
Saws Hollandaise dros asbaragws gwyn a thatws

Emylsiwn o felynwy a menyn gyda sudd lemwn yw saws Hollandaise. Mae'n felyn golau ac yn ddidraidd ei olwg ac yn llyfn a hufennog. Mae'n fras a menynaidd ei flas, gydag ychydig o flas cryf gan y sudd lemwn, ond nid cymaint i lethu fwydydd mwyn eu blas.

Hollandaise yw un o bum mam saws y traddodiad Ffrengig haute cuisine. Ystyrid yn anodd i'w greu oherwydd tueddiad melynwy i sgramblo dan wres. Daw'r enw o'r cred yr oedd i ddynwared saws Iseldiraidd ar gyfer ymweliad gwladol Brenin yr Iseldiroedd i Ffrainc. Mae saws Hollandaise yn brif gynhwysyn o wyau Benedict, a pharir yn aml â llysiau megis asbaragws wedi ei stemio.