Sarn y Cawr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sarn y Cawr

Ardal o ryw 40,000 o golofnau basalt yw Sarn y Cawr (Gwyddeleg: Clochán an Aifir neu Clochán na bhFomhórach, Saesneg: The Giant's Causeway, Sgoteg Ulster: Tha Giant's Causey), a ffurfiwyd gan ffrwydrad hen losgfynydd. Saif yn Swydd Antrim ar arfordir gogledd-ddwyrain Gogledd Iwerddon, tua 4.8 km (3 milltir) i'r gogledd-ddwyrain o dref Bushmills. Penodwyd yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO ym 1986 ac yn Warchodfa Natur Genedlaethol ym 1987 gan Adran yr Amgylchfyd dros Ogledd Iwerddon. Gellir cerdded ar ben y colofnau o'r clogwyn nes iddynt gyrraedd y môr. Mae'r rhan fwyaf ohynynt yn siâp hecsagon, er bod nifer ochrau rhai colofnau'r yn amrwyio o bedair hyd wyth. Mae'r colofnau talaf ryw 12 metr (39 troedfedd) o uchder, ac mae lafa caled y clogwyni'n 28 metr (92 troedfedd) o drwch mewn mannau.

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n berchen ar Sarn y Cawr heddiw ac yn ei rheoli, a hi yw'r atyniad twristaidd mwyaf poblogaidd yng Ngogledd Iwerddon.[1]

Nodiadau[golygu]