Saraha

Oddi ar Wicipedia
Saraha
Ganwyd8 g Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bardd o India a gyfansoddai gerddi Hindi cynnar oedd Saraha neu Sarahapa neu Sarahapāda (fl. tua'r 8g OC). Ei enw genedigol oedd Rāhula neu Rāhulbhadra. Ceir dohas (cwpledi) ganddo yn y Dohakosha. Priodolir padas (pennillion) 22, 32, 38 a 39 o'r Charyageetikosha (Charyapada) iddo hefyd.

Yn ôl yr ysgolhaig Indiaidd Rahul Sankrityayan, Saraha oedd y Siddha (math o sant mewn Bwdhaeth a Hindŵaeth) neu Siddhacharya cyntaf. Credir ei fod yn ddisgybl i Haribhadra, a fu yn ei dro yn ddisgybl i'r ysgolhaig Bwdhaidd Shantarakshita. Cedwir cerddi Saraha mewn llawysgrif a ysgrifennwyd tua dechrau'r 12g yn Nepal.

Ganed Saraha yn Nwyrain India ac astudiodd yn y fynachlog-brifysgol Fwdhaidd enwog yn Nalanda. Mae Bwdwyr yn ei ystyried yn un o'r Mahasiddhas ac felly yn un o sylfaenwyr y traddodiad Vajrayana. Mae'n bosibl y cafodd ei eni ym mhentref Raggyee yn Bhagalpur.

Ceir nifer o weithiau a briodolir i Saraha wedi eu cyfieithu i'r Dibeteg. Maent yn rhan o ganon safonol Bwdhaeth Tibet.