Sarah Edith Wynne

Oddi ar Wicipedia
Sarah Edith Wynne
Ganwyd11 Mawrth 1842 Edit this on Wikidata
Treffynnon Edit this on Wikidata
Bu farw24 Ionawr 1897 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcanwr opera Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laissoprano Edit this on Wikidata
PriodAviet Agabeg Edit this on Wikidata

Cantores Gymreig oedd Sarah Edith Wynne, Eos Cymru (11 Mawrth 1842 - 24 Ionawr 1897). Hi oedd y Gymraes gyntaf i ddod i sylw rhyngwladol fel cantores.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed hi yn Nhreffynnon, Sir y Fflint. Ymunodd â chymdeithas gorawl Treffynnon pan oedd yn naw oed, ac aeth ar daith trwy Gymru i ganu yn ddeuddeg oed. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, aeth i Lerpwl am addysg gerddorol. Rhoddodd ei pherfformiadau cyntaf fel cantores soprano yn Llundain yn 1862, a'r un flwyddyn canodd yn eisteddfod genedlaethol Caernarfon. Yn 1871, bu ar daith gerddorol i'r Unol Daleithiau. Bu hefyd yn astudio cerddoriaeth yn yr Eidal.

Yn 1875, priododd Aviet Agabeg, bargyfreithwr o Armenia.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]