Santiago Ramón y Cajal

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Santiago Ramón y Cajal
Ganwyd (1852-05-01)1 Mai 1852
Petilla de Aragón, Navarre, Sbaen
Bu farw 18 Hydref 1934(1934-10-18) (aged 82)
Madrid, Sbaen
Cenedligrwydd Sbaen
Meysydd Niwro-wyddoniaeth
Dylanwadau Aureliano Maestre de San Juan
Prif wobrau Gwobr Nobel mewn Ffisioleg neu Feddygaeth (1906)

Roedd y Sbaenwr Santiago Ramón y Cajal (1 Mai 1852 - 18 Hydref 1934) yn batholegydd, histolegydd a niwro-wyddonydd.

Cyfranodd yn helaeth at yr hyn yr ydym yn ei dderbyn heddiw fel niwronau sy'n rhannau o systemau nerfol anifeiliaid.

Fe'i ganwyd yn Petilla de Aragón, pentref bach yn nghefn gwlad ardal Navarre, Sbaen, yn fab i lawfeddyg-barbwr. Gydag ymdrech fawr derbyniodd ei dad radd mewn meddygaeth, a mynodd bod ei fab yn gwneud yr union peth. Derbyniondd Santiago radd meddygol o Brifysgol Zaragoza yn 1873. Ymunodd â'r fyddin ble'r aeth i Giwba, cyn dal malaria a'i hel adref. Aeth yn ei flaen i ddefnyddio'i ddoniau creadigol.