Santa Fe
| Santa Fe | |
|---|---|
| Lleoliad o fewn | |
| Gwlad | Unol Daleithiau America |
| Ardal | New Mexico |
| Llywodraeth | |
| Awdurdod Rhanbarthol | Llywodraeth rheolwr-cynghorol |
| Maer | David Coss |
| Daearyddiaeth | |
| Arwynebedd | 96.9 km² |
| Uchder | 2,1341 m |
| Demograffeg | |
| Poblogaeth Cyfrifiad | 67,947 (Cyfrifiad 2010) |
| Dwysedd Poblogaeth | 744 /km2 |
| Metro | 144,170 |
| Gwybodaeth Bellach | |
| Cylchfa Amser | EST (UTC-7) |
| Cod Post | 87500-87599 |
| Gwefan | http://www.santafenm.gov/ |
Santa Fe, neu Santa Fé, (Sbaeneg, "Ffydd Sanctaidd"; ffurf lawn: La Villa Real de la Santa Fé de San Francisco de Asís, Cymraeg: Dinas Frenhinol Ffydd Sanctaidd St. Ffransis o Assisi) yw prifddinas talaith New Mexico yn yr Unol Daleithiau. Mae'n gorwedd ar lan Afon Santa Fe.
Santa Fe yw dinas fwyaf a chanolfan sirol Swydd Santa Fe. Roedd ganddi boblogaeth o 62,543 yn ôl cyfrifiad 2000, ond erbyn 2005 amcangyfrifwyd poblogaeth o 70,631, gan ei gwneud yn ddinas drydedd fwyaf New Mexico. Mae'r ddinas yn gorwedd bron i 7,000 troedfedd (2,132 meter) uwchben lefel y môr, mewn cymhariaeth ag Albuquerque gyfagos, dinas fwyaf y dalaith, ar 5,352 troedfedd (1,631 m). Santa Fe yw'r brifddinas daleithiol uchaf yn yr Unol Daleithiau felly.
Llenyddiaeth [golygu]
Ymwelodd y bardd T. H. Parry-Williams â Santa Fe yn 1935. Yr hyn a'i atynai yn bennaf oedd yr enw:
- 'R wy'n mynd yn rhywle, heb wybod ym mh'le,
- Ond mae enw'n fy nghlustiau — Santa Fe,
- A hwnnw'n dal i dapio o hyd
- Y dagrau sydd gennyf i enwau'r byd,—
- Yr enwau persain ar fan a lle:
- R wy'n wylo gan enw — Santa Fe.'
(Synfyfyrion, 1937)
Gefeilldrefi Santa Fe [golygu]
| Gwlad | Dinas |
|---|---|
| Bukhara | |
| Parral | |
| Zacatecas | |
| Santa Fe | |
| Sorrento | |
| Tsuyama | |
| West Kanpur | |
| Holguín | |
| Bogotá |
Dolenni Allanol [golygu]
- (Saesneg) Gwefan Dinas Santa Fe