Sankt Pölten
Oddi ar Wicipedia
Prifddinas talaith Awstria Isaf yng ngogledd-ddwyrain Awstria yw Sankt Pölten (Bafareg: St. Pöitn). O'i hamgylch, mae ardal Sankt Pölten-Land. Mae'r boblogaeth tua 49,100.
Sefydlwyd y ddinas fel tref Rufeinig Aelium Cetium yn yr ail ganrif OC. Yn 799, enwir y dref mewn cofnod fel Treisma. Yn ddiweddarach, ail-enwyd hi ar ôl Sant Hippolytus, a drowyd yn Pölten yn ddiweddarch. Daeth yn brifddinas Awstria Isaf yn 1986.
Bu'r ddinas yn y newyddion yn 2009, pan ddedfrydwyd Josef Fritzl i garchar am oes am garcharu ei ferch am flynyddoedd mewn seler, a chenhedlu saith plentyn arni.