Samuel Holland

Oddi ar Wicipedia
Samuel Holland
Ganwyd17 Hydref 1803 Edit this on Wikidata
Lerpwl Edit this on Wikidata
Bu farw27 Rhagfyr 1892 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
TadSamuel Holland Edit this on Wikidata
MamCatherine Menzies Edit this on Wikidata
PriodAnn Robins Edit this on Wikidata

Gwleidydd Rhyddfrydol oedd Samuel Holland (17 Hydref 1803 - 27 Rhagfyr 1892) a oedd yn Aelod Seneddol Sir Feirionnydd rhwng 1870 a 1885.

Dyddiau cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd 17 Hydref 1803 yn Lerpwl yn fab i Samuel a Katherine (née Menzies) Holland, a'i fedyddio yng Nghapel Presbreteraidd Paradise Street Lerpwl ar 26 Ionawr 1804. Roedd ei dad wedi buddsoddi yn helaeth yn y diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru.

Cafodd ei addysgu mewn ysgolion preswyl yn Lloegr a'r Almaen, pan yn 18 oed fe'i danfonwyd i oruchwylio mewn chwarel lechi newydd ei dad yn Rhiwbryfdir Ffestiniog a bu fyw ym Meirionnydd am weddill ei oes.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Priododd dair gwaith. Ei ail wraig oedd Anne Rose a briododd ym 1850 yn Allesley, Gorllewin Canolbarth Lloegr (ac a arferai fod yn Swydd Warwick), bu hi farw ym 1877 [1]

Priododd Caroline Jane Burt, merch y Parch J. T. Burt, Broadmoor yn Sandringham ym 1878 [2] bu hi farw yng Nghaerdeon ger Dolgellau ym 1924.

Aelod Seneddol[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod Seneddol Rhyddfrydol dros etholaeth Meirionnydd am 14 mlynedd gan ennill dau etholiad yn gyffyrddus efo dros 60% o'r bleidlais a chael ei ethol yn ddiwrthwynebiad unwaith.

Cyfraniad y tu allan i'r senedd[golygu | golygu cod]

Cofir am Samuel Holland yn bennaf fel un o arloeswyr y diwydiant llechi yn ardal Ffestiniog. Bu yn un o'r prif gymhellwyr i adeiladu Rheilffordd Ffestiniog i gysylltu'r gweithfeydd llechi yn Ffestiniog a phorthladd Porthmadog [3]

Fe fu hefyd yn un o brif gefnogwyr sefydlu Ysgol Dr Williams, ysgol bonedd i ferched yn Nolgellau gan brynu a thalu am y tir yr adeiladwyd yr ysgol arno fel rhodd i'r ymddiriedolwyr.[4]

Fe fu'n Ustus Heddwch ac yn is-gwnstabl Castell Harlech ac yn Siryf Sir Feirionydd ym 1862

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw Rhagfyr 27 1892 yn 99 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Aberystwyth Observer 31 Mawrth 1877 "Family Notices" http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3041042/ART65
  2. Cambrian News and Merionethshire Standard 25 Hydref 1878 "Local and District" http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3309082/ART59
  3. History - Ffestiniog Railway / Part 1 - A Railway Is Born http://www.festrail.co.uk/fr_history_1.htm
  4. Y Dydd Rhag 30 1892 "Samuel Holland Ysw" http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3162826/ART25
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
David Williams
Aelod Seneddol dros Feirionnydd
18701885
Olynydd:
Henry Robertson