Samar

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Samar

Un o ynysoedd y Philipinau yw Samar. Hi yw'r mwyaf dwyreiniol o ynysoedd Visayas, i'r gogledd-ddwyrain o ynys Leyte. Mae ganddi arwynebedd o 13,080 km² ac toedd y boblogaeth yn 2000 yn 1.08 miliwn. Hi yw trydydd ynys y Philipinau o ran maint, ar ôl Luzon a Mindanao.

Mae tair talaith Samar ymhlith taleithiau tlotaf a lleiaf datblygedig y wlad. Oherwydd hyn, mae'r grŵp comiwnyddol New Peoples Army (NPA) yn gryf yma.