Sam & Max

Oddi ar Wicipedia
Clawr blaen Sam & Max: Freelance Police

Pâr o gymeriadau comig a grëwyd gan y darlunydd ac ysgrifennwr Steve Purcell yw Sam & Max a welodd olau dydd am y tro cyntaf yn 1987.

Ci anthropomorffig sy'n gwisgo dillad ditectif yw Sam a chwningen yw Max (ond mae'r llyfrau comics yn ei ddisgrifio fel hyperkinetic rabbity thing). Mae'r ddau yn gweithio fel ymchwilwyr preifat, ond maent fel arfer yn cyfeirio i'w hunain fel Freelance Police. Yn wreiddiol, roeddent yn gymeriadau mewn llyfrau comics o'r un enw yn 1987, ond ers hynny maent wedi ymddangos mewn gemau cyfrifiadur ac mewn cyfres deledu a ddangoswyd yng ngwledydd Phrydain ar S4C a Channel 4.

Dave, brawd Steve Purcell gafodd y syniad gwreiddiol, ac o wnaeth greu'r syniad o gomic am dditectifs yn cynnwys ci a chwningen. Gan fod ei syniadau'n cael eu gadael yma ac acw o gwmpas y tŷ, yn aml byddai Steve yn gafael yn y sgetsis ac yn eu gorffen. ond roedd yn aml yn cymysgu'r cymeriadau a'u henwau. o hynny, dechreodd greu comics a storiau ei hunan. Yn y 1970au trosglwyddodd Dave yr hawliau (hawlfraint y cymeriadau etc) i Steve gan roi caniatad iddo eu datblygu.[1][2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Part 1: The Early Years". The History of Sam & Max. Telltale Games. 2007-06-12. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-01-03. Cyrchwyd 2008-12-04.
  2. Steve Purcell (2008-03-11). A COMIC-CONversation With Steve Purcell!!! (DVD). Shout! Factory. |access-date= requires |url= (help)
Eginyn erthygl sydd uchod am gymeriad cartŵn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.