Salyut 1
Oddi ar Wicipedia
Salyut 1 oedd yr orsaf ofod gyntaf i gael ei lansio erioed. Lansiwyd ar 19 Ebrill 1971 o Rwsia, ac ymwelodd criw o ofodwyr Rwsaidd â'r orsaf ar 7 Mehefin 1971 ar y llong ofod Soyuz 10. Treuliodd tri gofodwr 23 diwrnod yn y gofod - record ar y pryd - ond buont farw yn ystod y daith yn ôl i'r ddaear achos diffyg aer yn eu coden. Syrthiodd yr orsaf o'i orbit yn Hydref 1971.