Caersallog
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Salisbury)
Dinas hanesyddol yn Wiltshire, de-orllewin Lloegr, yw Caersallog (Saesneg: Salisbury). Mae'n gorwedd yn ne Wiltshire ar gymer afonydd Avon a Wylye. Mae'n adnabyddus am ei heglwys gadeiriol Gothig gyda'r tŵr eglwys uchaf ym Mhrydain, 123 medr (403 troedfedd) o uchder. Mae'r gadeirlan yn gartref i Esgob Caersallog. Mae gan y ddinas boblogaeth o tua 40,000 (2004).
Cynnwys |
Hanes [golygu]
Lleolir Hen Sallog (Old Sarum) ger y ddinas. Bu bryngaer ar y safle yn Oes yr Haearn a chodwyd eglwys gadeiriol gyntaf Caersallog yno; symudwyd y gadeirlan i Sallog Newydd (New Sarum: Salisbury) yn y 13eg ganrif.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Croes Dofednod
- Eglwys Gadeiriol Caersallog
- Tŷ Brenin (amgueddfa)
Enwogion [golygu]
- Michael Crawford (g. 1942), actor a chanwr
- John Rhys-Davies (g. 1944), actor
Gweler hefyd [golygu]
- Ardalydd Caersallog ac Iarll Caersallog
- Gwastadedd Salisbury (Salisbury Plain), lle ceir Cor y Cewri
- Rhestr enwau Cymraeg ar drefi a llefydd eraill yn Lloegr